
Cwmni ffasiwn o Lanelli yn ennill gwobr cynaliadwyedd

Wrth i boblogrwydd ffasiwn cyflym a gwefannau dillad rhad dyfu, mae un cwmni dillad yn Llanelli wedi ennill gwobr cynaliadwyedd arbennig gan gylchgrawn Marie Claire.
Mae Onesta, a gafodd ei lansio ym mis Rhagfyr, yn defnyddio defnydd cynaliadwy yn unig, ac yn defnyddio pob mymryn ohoni.
Dywedodd perchennog y cwmni Gabriella Diana wrth ITV Cymru: “Mae pob peth rydyn ni’n gwneud bob tro wedi rhoi cynaliadwyedd a moesegau’n gyntaf, ac rydyn ni’n gweithio’n galed iawn i sicrhau fod pob elfen o’n busnes yn gynaliadwy ac yn foesegol.

“Rydyn ni’n cadw ein deunyddiau ni i gyd, fel y defnydd fyddai’n mynd yn wastraff. Gan ein bod ni’n creu ein dillad yma yng Nghymru, a lot o hynny ein hunain, rydyn ni’n llythrennol yn gallu cadw popeth.
“Rydyn ni nawr yn gweithio gyda ‘Surfers Against Sewage’ i greu padiau i dynnu colur a fydd yn ein galluogi i waredu weipiau colur untro, sydd yn andros o wael i’r amgylchedd.”
Amcangyfrif bod 10% o allyriadau carbon dynol yn dod o’r diwydiant ffasiwn, yn ôl UN Environment, ac mae gwerth £140 miliwn o ddillad o’r DU yn cyrraedd claddfeydd sbwriel bob blwyddyn.

Dywedodd Gabriella Diana o Onesta wrth ITV Cymru: “Rwy’n credu mai’r broblem yw ein bod ni wedi arfer gymaint â ffasiwn rad, tra mewn gwirionedd, dylen ni ddim bod yn talu cyn lleied am grys-t.
“‘Dw i’n credu roedd un o’r cwmnïau ffasiwn brys yn gwerthu ffrogiau am ddwy bunt. Os oes modd i chi werthu rhywbeth am bris mor isel a dal gwneud elw, pwy yn y byd wnaeth greu’r dilledyn?” ychwanegodd.
“Rydych chi’n gwybod doedd yr amgylchiadau gafodd y dilledyn hynny ei gynhyrchu mewn ddim yn dderbyniol. Nawr, ‘dw i’n credu ein bod ni’n ceisio annog pobl i feddwl am bwy greodd eu dillad, sut cawson nhw eu creu, a beth yw’r effaith ar bobl, ar anifeiliaid, ac ar ein planed.”
Sut fedrwch chi siopa mewn ffordd fwy cynaliadwy?
Osgoi ‘trends’
Trwy gadw at ddarnau mwy clasurol, bydd dim angen poeni am bethau yn mynd ‘allan o ffasiwn’. Byddwch chi’n osgoi prynu sawl dilledyn, ac yn lle byddwch chi’n prynu ambell ddarn fydd yn fwy amlbwrpas ac yn para’n hirach.
Dewis defnydd amgylcheddol
Darllenwch y label ar eich dilledyn i ddarganfod o ba ddefnyddiau mae o wedi ei greu. Mae defnyddiau fel polyester yn rhad i brynu, ond mae creu’r defnydd yn cymryd lot mawr o ddŵr. Mae defnyddiau fel hemp a linen yn well i’r amgylchedd, ac mae yna ddefnyddiau newydd fel tencell a hyd yn oed seacell, sydd wedi ei greu o wymon.
Edrych ar ôl a thrwsio eich dillad
Sicrhewch eich bod chi’n golchi eich dillad yn gywir trwy ddarllen y label. Os oes unrhyw niwed i’ch dillad, ceisiwch eu trwsio yn hytrach na’u taflu i ffwrdd. Neu, gallwch chi gael gwniadyddes leol i’w trwsio i chi.
Rhentu dillad
Mae yna wefannau a siopau sydd yn eich caniatáu i rentu dillad yn hytrach na’u prynu, sydd yn well i’r amgylchedd ac yn rhatach i chi.
Siopa’n ail law
Mae modd siopa’n ail-law mewn sawl ffordd, boed hynny mewn siop elusen leol neu ar-lein.
Cyfnewid dillad
Edrychwch i weld a oes unrhyw ddigwyddiadau cyfnewid dillad yn eich cymuned, neu gofynnwch i’ch ffrindiau a’ch teulu os hoffen nhw gyfnewid dillad gyda chi.