Llanelli: Pobl yn cael dychwelyd i'w tai ar ôl i'r heddlu ddiogelu dyfais
Mae pobl wedi cael dychwelyd i'w tai ar ôl i'r heddlu fod yn chwilio am ddeunydd ffrwydrol yn Llanelli, Sir Gâr.
Roedd sawl stryd wedi eu cau a chanolfan orffwys wedi ei sefydlu ddydd Mercher wrth i'r heddlu gynnal ymchwiliad i'r deunydd ffrwydrol posib mewn tŷ yn y dref.
Mae dyn 57 oed wedi ei arestio dan amheuaeth o droseddau dan y Ddeddf Sylweddau Ffrwydrol.
Mae'n parhau yn y ddalfa.
"Mae swyddogion Gwaredu Ordnans Ffrwydrol wedi cwblhau eu chwiliadau, ac mae un ddyfais bellach yn ddiogel, ac nid ydym bellach yn credu bod unrhyw fygythiad ehangach i'r cyhoedd," meddai Heddlu Dyfed Powys.
Dywedodd y Prif Arolygydd, Dominic Jones: "Hoffwn ddiolch i'r gymuned gyfan am eu cefnogaeth a'u hamynedd wrth i ni ddelio â'r digwyddiad hwn.
"Bydd pobl leol yn gweld mwy o heddlu yn yr ardal dros y dyddiau nesaf wrth i ymholiadau barhau."
Roedd cordon 100 metr wedi ei osod y tu allan i dŷ ar Heol Doc Newydd yn y dref i ddiogelu’r cyhoedd, a tîm gwaredu ordnans ffrwydrol (explosive ordinance disposal) ar y lleoliad yn cynnal ymchwiliad.
Roedd y cordon yn golygu fod Trinity Terrace, Heol Trinity, Heol Copperworks, Heol Doc Newydd a Stryd Marged bellach ar gau.
Dywedodd swyddogion yr heddlu yn gynharach eu bod nhw'n bwriadu cysylltu â thrigolion sydd yn byw o fewn y cordon maes o law.
Roedd canolfan orffwys wedi ei sefydlu yng Nghanolfan Hamdden Llanelli ar gyfer trigolion lleol.
Mae’r llu wedi gofyn i bobl yn yr ardal i ddilyn cyfarwyddiadau swyddogion er budd eu diogelwch.
Llun: Heol Doc Newydd, Llanelli (Google)