Newyddion S4C

Y gwasanaethau brys yn ymateb i dân mynydd yn Llandudno

Tân yn ardal Llandudno

Mae’r gwasanaethau brys wedi annog pobl i fod yn ofalus yn dilyn tân yn ardal Llandudno. 

Fe ddywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru nos Fawrth eu bod wedi bod yn ymladd tân ger ysbyty'r dref. 

Roedd y tân yn llosgi yn ardal Maes yr Orsedd ac ar Fynydd Cwm, meddai llefarydd. 

Dywedodd Heddlu’r Gogledd eu bod nhw’n ymwybodol bod eu cyd-weithwyr yn y gwasanaeth tân yn delio â’r sefyllfa. 

Fe wnaeth y llu annog pobl i "fod yn ofalus" wrth deithio yn yr ardal.

Llun: Josh Boyle/Facebook

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.