Newyddion S4C

Tom Jones i berfformio ym Mharc Biwt yng Nghaerdydd yn yr haf

17/02/2025
Tom Jones

Fe fydd y cerddor byd-enwog Syr Tom Jones yn perfformio yng Nghaerdydd yr haf hwn. 

Dyma fydd ei unig gyngerdd yng Nghymru eleni ac fe ddaw fel rhan o’i daith Defy Explanation. 

Mae’n dychwelyd i’r llwyfan ym Mharc Biwt am y tro cyntaf ers iddo berfformio yng Nghastell Caerdydd yn 2023 o flaen torf o 30,000 o bobl. 

Dywedodd Syr Tom ei fod yn “caru Caerdydd” a’i fod yn “edrych ymlaen yn fawr” at berfformio fel rhan o gyfres o gyngherddau Live at Bute Park. 

Ag yntau bellach yn 84 oed, mae rhai o’i ganeuon mwyaf adnabyddus yn cynnwys Green Green Grass of Home, Delilah a It’s Not Unusal

Dywedodd Nick Saunders, sylfaenydd DEPOT Live, ei fod “wrth ei fodd” y bydd Syr Tom yn cychwyn cyfres Live at Bute Park eleni. 

“Does dim amheuaeth ei fod yn arwr yn y sîn gerddoriaeth ledled y byd… fe fydd yn brofiad bythgofiadwy.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.