
Cyhoeddi rhestr fer Cân i Gymru 2025
Mae rhestr fer caneuon Cân i Gymru 2025 wedi ei chyhoeddi.
Bydd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn dychwelyd wrth iddyn nhw gyflwyno’r gystadleuaeth yn Dragon Studios, Pen-y-bont ar Ogwr ar nos Wener 28 Chwefror 2025.
Mi fydd cyfansoddwr y gân fuddugol yn derbyn £5,000 a chytundeb perfformio, gydag ail wobr o £3,000 a thrydedd wobr o £2,000.
Y cerddor Osian Huw Williams, prif leisydd y band Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr yw cadeirydd panel y beirniaid a fydd yn mentora'r cystadleuwyr ac yn cyflwyno tlws Cân i Gymru i'r cyfansoddwr buddugol.
Mae’r cerddor Peredur ap Gwynedd; y gantores, actores a chyflwynydd Caryl Parry Jones, y rapiwr a chyfansoddwr Sage Todz a’r gantores a’r gyfansoddwraig Catty ymhlith y beirniaid eleni.
Rhestr fer Cân i Gymru 2025
Yr wyth cân sydd wedi cael eu dewis i gystadlu yw:
Troseddwr yr Awr
Cyfansoddi a chanu: Dros Dro

Am Byth
Cyfansoddi: Geth Vaughan
Canu : Lewys Meredydd

Torra Dy Gwys
Cyfansoddi: Elfed Morgan Morris, Carys Owen, Emlyn Gomer Roberts
Canu: Catrin Angharad Jones

Gwydr Hanner Llawn
Cyfansoddi a chanu: Garry Owen Hughes

Mae’r Amser Wedi Dod
Cyfansoddi a chanu: Heledd a Mared Griffiths

Lluniau Ar Fy Stryd
Cyfansoddi: Meilyr Wyn
Canu: Gwen Edwards

Hapus
Cyfansoddi a chanu: Geth Vaughan

Diwedd y Byd
Cyfansoddwr a chanu: Marc Skone

Pleidleisio
Yn ôl yr arfer, y gwylwyr sy'n gyfrifol am ddewis cân fuddugol cystadleuaeth Cân i Gymru drwy bleidleisio am eu hoff gân.
Ond fe fydd proses bleidleisio newydd eleni ac mae disgwyl i fanylion pellach gael ei rhannu yn ystod yr wythnos cyn y gystadleuaeth.
Fe ddywedodd y rheoleiddiwr Ofcom bod y sioe wedi torri rheolau darlledu'r llynedd ar ôl derbyn 10 o gwynion wedi i rai fynegi rhwystredigaeth ar y cyfryngau cymdeithasol am nad oedden nhw wedi llwyddo i bleidleisio.
'Ti' gan Sara Davies a gipiodd gwobr Cân i Gymru 2024 ar 1 Mawrth y llynedd.
Bydd yr holl ganeuon eleni yn cael eu chwarae ar Radio Cymru o 18 Chwefror ymlaen.