Robin McBryde: ‘Rygbi wedi colli ei enaid yng Nghymru’
Mae cyn-chwaraewr a chyn-hyfforddwr rygbi Cymru Robin McBryde wedi dweud fod “rygbi wedi colli ei enaid yng Nghymru”.
Daw ei sylwadau wedi i brif hyfforddwr Cymru Warren Gatland golli ei swydd ar ôl i Gymru golli 14 gêm yn olynol.
Roedd McBryde yn hyfforddwr blaenwyr Cymru o dan Gatland.
Roedd McBryde yn siarad ar ôl i’w dîm Leinster, lle mae’n hyfforddwr cynorthwyol, guro’r Gweilch yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig nos Wener.
Inline Tweet: https://twitter.com/BBCScrumV/status/1890726580340629559
Dywedodd: “Mae’r sefyllfa yn fy ngwneud yn drist iawn o safbwynt Cymru. Rydw i ar y tu allan i raddau helaeth yn edrych i mewn.
"Y pryder mwyaf i mi yw bod rygbi wedi colli ei enaid yng Nghymru.
“Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw un yn mwynhau eu hunain. Nid oes llawer o bobl yn gwylio'r gêm ac mae hynny'n drist iawn.
"Gallaf dreulio drwy’r nos yn siarad am y broblem – nid yw hynny’n mynd i wneud pethau’n well," meddai ar raglen ScrumV Live.
Fe ychwanegodd: “Mae'n rhaid i ni symud ymlaen nawr. Rwy'n teimlo'n drist iawn dros Warren oherwydd mae wedi gwneud llawer o bethau da.
"Mae’n hawdd iawn anghofio’r holl waith da mae wedi’i wneud ond gobeithio y bydd ei atgofion yn rhai da oherwydd mae’n haeddu hynny.
"Yr ydym yn haeddu rhoi hynny iddo fel cenedl.”
Fe fydd Cymru yn wynebu Iwerddon yng Nghaerdydd, yn eu trydedd gêm o'r Chwe Gwlad, ddydd Sadwrn nesaf, gyda Matt Sherratt yn arwain y tîm fel y Prif Hyfforddwr Dros Dro.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1889652793981497600
Llun: Asiantaeth Huw Evans