Newyddion S4C

Carchar i ddyn o Gaerdydd am gynllwyn i smyglo cyffuriau i dde Cymru

Calvin Parris

Mae dyn o Gaerdydd oedd ar ffo o’r heddlu am bedair blynedd wedi cael dedfryd o 12 mlynedd yn y carchar am ei ran mewn gang troseddol.

Roedd Calvin Parris, 34 oed o Drelái, yn droseddwr oedd ar restr ‘most wanted’ heddlu'r DU am ei ran mewn cynllun i geisio smyglo cyffuriau dosbarth A i dde Cymru.

Ar ôl cyfnod o bedair blynedd o ddianc o’r heddlu, cafodd ei arestio yn yr Algarve gan swyddogion heddlu ym Mhortiwgal, ar 3 Hydref.

Cafodd ei gludo ar awyren yn ôl i’r DU ar 15 Hydref 2024 gan yr Asiantaeth Droseddu Genedlaethol (NCA), cyn i Heddlu De Cymru ei gadw yn y ddalfa.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Merthyr ddydd Gwener, cafodd Parris ddedfryd o 12 mlynedd yn y carchar.

Image
Cyffuriau
Roedd Parris yn rhan o gynllwyn i drosglwyddo cyffuriau Dosbarth A i Gymru yn ystod cyfnod clo'r pandemig Covid-19

Dywedodd Duncan Burrage, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol yr NCA: “Ni fyddai’r cyfnod carchar a roddwyd i Parris heddiw wedi bod yn bosibl heb waith caled ein partneriaid yn Heddlu Portiwgal a ddaeth o hyd iddo a’i arestio yn yr Algarve y llynedd.

“Mae’r achos hwn yn dangos ein hymrwymiad i weithio’n agos gyda gorfodi’r gyfraith ddomestig a rhyngwladol i sicrhau nad oes unrhyw le i ffoaduriaid o’r DU redeg a chuddio rhag cyfiawnder.”

'Effaith sylweddol'

Roedd Parris yn rhan o “gynllwyn cymhleth” i drosglwyddo cyffuriau Dosbarth A i Gymru yn ystod cyfnod clo'r pandemig Covid-19 gan ddefnyddio system cyfathrebu gudd ar blatfform ‘Encro Chat’.

Parris oedd aelod olaf y grŵp troseddol i dderbyn dedfryd.

Cafodd Lenci Gashi ei ddal yn cludo 15kg o gocên ar ffordd yr M4 tuag at Dde Cymru ym Mai 2020. Ym Mehefin 2020, cafodd Michael Laverick, pennaeth y grŵp yn Ne Cymru, ei arestio.

Yn ddiweddarach, cafodd gweddill aelodau’r grŵp, Amir Khan, Danny Attard a Damian Farrugia, eu dal, gyda phob un yn derbyn dedfryd o garchar:

  • Amir Khan - 20 mlynedd 7 mis
  • Michael Laverick - 18 mlynedd 
  • Danny Attard - 14 mlynedd
  • Damian Farrugia - 13 mlynedd
  • Lenci Gashi - 11 mlynedd 4 mis
  • Asim Naveed - 10 mlynedd 8 mis

Dywedodd y Ditectif Ringyll Ceri Young o Heddlu De Cymru: “Mae troseddau cyfundrefnol a masnachu mewn pobl yn cael effaith andwyol sylweddol ar gymunedau ac mae dod â throseddwyr sy’n ymwneud â’r lefel hon o droseddoldeb o flaen eu gwell yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru.”

Lluniau: Heddlu De Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.