
'Braint': Diwedd degawdau o ddarlledu'r newyddion i Dylan Jones
Ar ôl bron i bedwar degawd o ddarlledu ar donfeddi’r radio, fe fydd Dylan Jones yn rhoi’r gorau i gyflwyno rhaglenni newyddion ar BBC Radio Cymru.
Ers 1986, mae llais Dylan Jones wedi bod yn gyfarwydd i lawer; yn sylwebu ar gemau bêl-droed, gohebu ar straeon mawr rhyngwladol, a chyflwyno rhaglenni yn trafod y newyddion yng Nghymru.
Ond ar ôl ffarwelio ar ddiwedd ei raglen Post Prynhawn ddydd Gwener, fe fydd Dylan yn rhoi’r gorau ar ohebu ar y newyddion.
“Ella fyddan nhw’n falch bo’ fi’n mynd!” meddai Dylan wrth siarad â Newyddion S4C.
Fe fydd gwrandawyr yn colli’r hiwmor a’r chwarae ar eiriau y mae’r cyn athro ysgol yn adnabyddus amdano.
Fe fydd yn parhau i gyflwyno’r rhaglen bêl-droed Ar y Marc bob bore dydd Sadwrn, sydd wedi bod yn rhan o amserlen yr orsaf ers 33 mlynedd.

Ond mae’n cyfaddef ei fod yn edrych ymlaen at gael mwy o amser yn yr wythnos i “ymlacio”.
“Ar ddydd Llun, mi fydda i’n gofalu am fy wyrion, Jacob sydd yn ddwy oed a Lena sydd yn wyth mis. Felly mi fyddai isho dydd Mawrth i ddadflino!” meddai.
“Mae Elen, fy wraig, off ddydd Mercher, felly allwn ni neud rwbath efo’n gilydd, a wedyn dydd Gwener fydda i’n paratoi Ar y Marc a fydd yr wythnos 'di mynd.
“Ella na’i ail gydiad yn y golff, a fydda i’n garddio hefyd ma siŵr - ma na ddipyn o waith yn yr ardd.
“Ond fydd yn braf cael cyfle i ymlacio hefyd wrth gwrs - a peidio cael deadlines!”
Teithio'r byd
Fel newyddiadurwr profiadol, mae Dylan wedi bod ynghlwm â rai o’r straeon pwysicaf o’r pum degawd diwethaf.
Roedd Dylan ym Mharis yn dilyn marwolaeth y Dywysoges Diana, yn Islamabad ym Mhakistan wedi trychineb 9/11, yn dyst i’r trychineb Hillsborough yn Sheffield ac yn Lerpwl ar ôl llofruddiaeth James Bulger.
Dywedodd Dylan: “Maen nhw’n storiâu trist, llawer ohonyn nhw, ond ti’n gorfod cadw dy deimladau i chdi dy hun rywsut a gwneud dy orau i roi’r ffeithiau mor ddiduedd a theimladwy a fedri ti, heb fynd yn rhy emosiynol.”
“O’ ti’n teimlo rhyw fraint o gael dy ddewis i fynd yna oherwydd o’ ti’n gwasanaethu Cymru rywsut a'r gwylwyr a’r gwrandawyr i gyd.”
Roedd hefyd yn rhan o’r tîm Taro Naw ar S4C a wnaeth dorri’r newyddion am y sgandal Swyddfa’r Post, 15 mlynedd cyn y gyfres ddrama enwog Mr Bates vs The Post Office ar ITV.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1745477959794704508
Mae’r blynyddoedd o newyddiadura wedi arwain at sawl gwobr, gan gynnwys Gohebydd Newyddion Teledu’r Flwyddyn BT yn 1997, Personoliaeth Radio’r Flwyddyn yn y Gwobrau Cyfryngau Celtaidd yn 2009 a Rhaglen Ddogfen Radio’r Flwyddyn yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru yn 2019.
“Tydi’r cyflwynydd ddim ond cystal â’i griw cynhyrchu,” ychwanegodd.
“A dwi 'di bod yn lwcus ar hyd y blynyddoedd i gael criw cynhyrchu o’r safon uchaf. Does 'na’m pwrpas dechrau enwi, ond dwi wedi gweithio efo gymaint o bobol. Piti drostyn nhw!”
Gwireddu breuddwyd
Wrth ymuno â’r BBC fel sylwebydd, fe wnaeth Dylan wireddu "breuddwyd" o’i blentyndod o efelychu’r diweddar David Coleman - tra’n parhau i weithio fel athro hanes a gwleidyddiaeth.
Yn y pen draw, fe wnaeth roi’r gorau i ddysgu ar ôl saith mlynedd, gan gychwyn ei yrfa fel newyddiadurwr a sylwebydd.
Ond y bêl gron oedd beth agorodd y drws i yrfa ddarlledu Dylan – a’r bêl gron sydd yn ei gadw ar y radio hyd heddiw.
“O ran pêl-droed, yr uchafbwynt yn sicr, oedd Euro 2016. Cymru yn mynd i rowndiau terfynol am y tro cyntaf a’r holl ffans o Gymru oedd yna a’r brwdfrydedd.

“Ddigwyddith o byth eto achos dyna oedd y tro cynta.
"Roedd ‘na ryw gyffro anhygoel ag oedd yn fraint cael bod yn fan ‘no, bod yng nghanol y ffans a chlywed y ffans oherwydd oeddan ni’n gwneud y Post Cyntaf o wahanol ddinasoedd pob dydd.
"Mi oedd o’n brilliant.
“O' ti’n meddwl bo’ ti’n gadael adra am bythefnos tan bod Cymru yn mynd allan, ac wedyn naethon nhw aros tan y semis!
"O’n i’m adra tan bedair wythnos wedyn. Roedd 'na waith torri’r lawnt ar ôl dod adra!"
Dros y blynyddoedd, mae Dylan wedi cyflwyno rhaglen Newyddion S4C, Taro Naw, Pawb a’i Farn, Taro’r Post, Y Post Cyntaf, Dros Frecwast Sadwrn a’r Post Prynhawn.
Ond wrth iddo roi’r gorau i ddarlledu ar raglenni materion cyfoes a newyddion, beth fydd yn ei fethu fwyaf?
“Y wefr a’r fraint o gael darlledu’n fyw a gwybod bo’ chdi’n cael y fraint o fynd i gartrefi pobl i drosglwyddo’r newyddion - dyna fydda i’n colli fwyaf.
“Ti ddim yn gwybod be’ sy’n dod nesa efo newyddion a weithia mae’r stori yn datblygu yn ystod y rhaglen ac mae hwnna’n rhoi ryw wefr i ti, ac mae’n dy roi di ar flaena’ dy draed mwy nag erioed.”