Dyn o Forfa Nefyn yn osgoi carchar ar ôl anafu dau'n ddifrifol mewn damwain
Mae dyn o Forfa Nefyn yng Ngwynedd wedi derbyn dedfryd o garchar wedi ei ohirio am 10 mis ar ôl anafu dau'n ddifrifol mewn damwain ar Ddydd San Steffan 2022.
Roedd Geraint Priestley, 21 oed, wedi pasio ei brawf gyrru y mis Gorffennaf cynt, ac roedd wedi gyrru ei Land Rover Discovery heb declyn cyflymder speedometer oedd yn gweithio am o leiaf fis cyn y ddamwain.
Dywedodd y Barnwr Niclas Parry yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Iau fod Priestley wedi ystyried ei gerbyd fel "peth chwarae, neu degan.”
“Yn gwbl gyson â’ch agwedd at ddiogelwch ar y ffyrdd, fe wnaethoch chi yrru mewn ffordd oedd yn golygu eich bod allan o reolaeth o'r cerbyd mawr hwnnw,” meddai’r barnwr.
Gwyrodd y Land Rover i lwybr car Peugeot ger Pwllheli, gan achosi anafiadau “difrifol” i ddau berson.
“O fis Rhagfyr 2022 i fis Chwefror 2025 maen nhw’n dal i ddioddef y canlyniadau,” meddai’r Barnwr Parry.
“Heb os, fe wnaeth eich anaeddfedrwydd gyfrannu at eich agwedd fwy gwallgof tuag at ddiogelwch ar y ffyrdd.”
Derbyniodd yr erlyniad ble euog i achosi anaf difrifol drwy yrru'n ddiofal.
Dywedodd Elen Owen ar ran yr amddiffyniad fod Priestley wedi mynegi “edifeirwch mawr” i'r rhai gafodd eu hanafu, sef Paul a Linda Baker, a theithiwr arall.
Rhoddodd y Barnwr Parry ddedfryd o 10 mis o garchar wedi'i ohirio am 18 mis, gyda 200 awr o waith di-dâl i Priestley.
Cafodd ei wahardd rhag gyrru am 16 mis hefyd ac fe fydd yn rhaid iddo basio prawf estynedig ar ddiwedd y cyfnod.