Poblogaeth Gwynedd yn heneiddio: Arweinydd yn poeni am yr effaith
Mae arweinydd Cyngor Gwynedd wedi mynegi pryder am y modd mae poblogaeth y sir yn heneiddio, gyda llai a llai o blant yn ysgolion y sir, a mwy o bwysau ar wasanaethau i'r henoed.
Gwnaeth Nia Jeffreys ei sylwadau yn ystod trafodaeth y cabinet am ddyfodol dwy o ysgolion cynradd Dyffryn Nantlle, lle mae nifer y disgyblion wedi gostwng yn sylweddol.
Dywedodd bod angen gwynebu "difrifoldeb symudiadau demograffi" yng Ngwynedd, ac effaith hynny ar wasanaethau cymdeithasol yr awdurdod.
"Da ni'n clywed dro ar ôl tro bod ein poblogaeth yn heneiddio," meddai. "Mae nifer y plant yn ein hysgolion yn lleihau'n flynyddol, ac ar yr un pryd mae'n poblogaeth hŷn sydd ag anghenion gofal, yn cynyddu."
Clywodd y cyfarfod mai dim ond 10 o blant oedd yn Ysgol Nebo bellach, ac 13 yn Ysgol Baladeulyn ym mhentref Nantlle.
Roedd cost addysg y pen yn y ddwy ysgol bron yn £15,000 y disgybl, o'i gymharu â ffigwr Gwynedd yn gyffredinol o £5,223 y pen.
Ond clywodd y pwyllgor fod Estyn wedi dyfarnu safon yr addysg yn y ddwy ysgol fel bod o ansawdd da.
Cytunodd y cabinet i ddechrau trafodaethau ffurfiol am ddyfodol y ddwy ysgol. Y bwriad yw cynnal cyfarfodydd gyda llywodraethwyr, staff, rhieni a disgyblion.
Dywedodd y deilydd portffolio addysg, y Cynghorydd Dewi Jones, ei fod yn gobeithio gallu dod nôl i'r cabinet ym mis Mehefin gyda mwy o wybodaeth cyn i benderfyniad terfynol gael ei gymryd.