Tân yn achosi 'difrod sylweddol' i dŷ yn Sir Benfro
10/02/2025
Mae tŷ yn Sir Benfro wedi ei “ddifrodi’n sylweddol” gan dân.
Cafodd criwiau o orsafoedd tân Crymych, Hendy-gwyn, Rhydaman, Aberdaugleddau a Hwlffordd eu galw i bentref Clunderwen am 12.48 ddydd Gwener 7 Chwefror yn dilyn adroddiadau o dân mewn tŷ.
Cafodd un person ei dywys allan o’r eiddo gan ddiffoddwyr tân cyn derbyn ocsigen.
Fe wnaeth to’r tŷ ddymchwel, tra bod Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dweud bod y tŷ wedi ei “ddifrodi’n sylweddol” gan y tân.
Cafodd y tân ei ddiffodd yn y pen draw, gyda chriwiau yn gadael y lleoliad am 15.31.