Newyddion S4C

Gogledd Cymru: Nadroedd a gafodd eu rhyddhau ‘drwy ddamwain’ bellach yn 'ffynnu'

Neidr zamenis longissimus
Neidr

Mae nadroedd a gafodd eu rhyddhau “drwy ddamwain” yng ngogledd Cymru bellach yn “ffynnu” yno, meddai arbenigwr o Brifysgol Bangor.

Ac maen nhw wedi gwneud hynny drwy guddio o’r golwg yn adeiladau pobl, yn ôl ymchwil newydd.

Dihangodd nadroedd Zamenis longissimus o Sw Mynydd Bae Colwyn yn yr 1970au.

Cafodd poblogaeth o'r nadroedd sydd bellach yn byw rhwng Bae Colwyn a Mochdre ei hastudio fel rhan o bapur ymchwil newydd ar y cyd rhwng ymchwilwyr o Brifysgol Bangor a phrifysgolion eraill.

Roedd y nadroedd sydd ddim yn wenwynig, bellach yn “ffynnu” yn eu cartref newydd, medden Wolfgang Wüster, Athro Swoleg ym Mhrifysgol Bangor, wrth The Conversation.

“Roedd y canlyniadau wedi ein synnu,” meddai.

“Roedd gan y nadroedd ffordd o fyw a oedd i'w weld yn eu helpu i oroesi'r hinsawdd oer. 

“Roedden nhw’n mynd i mewn i adeiladau yn aml - llochesi cymharol gynnes - tra roeddent yn treulio bwyd neu'n paratoi i ollwng eu croen.

“Roedden nhw hefyd yn defnyddio biniau compost gardd fel lloches ac i ddeor eu hwyau.

“Hyd yn oed yn fwy o syndod, nid oedd y rhan fwyaf o’r trigolion yn meindio'r nadroedd. 

“Mewn gwirionedd, nid oedd gan lawer unrhyw syniad bod ganddynt nadroedd fel cymdogion oherwydd eu bod yn cadw proffil mor isel, fel arfer yn cuddio mewn corneli atig. 

“Mae'n ymddangos bod y nadroedd yn cydfodoli â bywyd gwyllt maestrefol arferol, ac nid oes unrhyw arwyddion bod eu presenoldeb yn effeithio ar rywogaethau brodorol.”

Image
Ymchwilwyr wrth eu gwaith
Ymchwilwyr wrth eu gwaith

Dywedodd Wolfgang Wüster nad oedd o blaid difa'r creaduriaid a hynny am eu bod yn prinhau yn eu cynefin naturiol ar y cyfandir.

“Byddai’n drasig pe bai rhywogaethau fel hyn yn diflannu mewn rhannau o’u cynefin naturiol, tra bod poblogaethau sy’n ffynnu yn cael eu trin fel estroniaid annymunol y mae’n rhaid eu difa,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.