Oedi cyn rhyddhau anwyliaid o farwdai yn 'achosi gofid' i deuluoedd
Mae trefnydd angladdau yn Llandudno wedi dweud bod oedi o hyd at dair wythnos cyn rhyddhau anwyliaid o farwdai ysbytai yn achosi "llawer o ofid” i deuluoedd.
Daeth deddfwriaeth newydd i rym ar ym mis Medi, 2024 sy'n golygu bod rhaid i farwolaethau nad yw crwner yn ymchwilio iddynt gael eu hadolygu gan archwiliwr meddygol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn edrych ffyrdd o leihau'r oedi.
Ar hyn o bryd, mae rhaid i deuluoedd aros cyhyd â thair wythnos cyn i'r corff gael ei ddychwelyd iddynt, yn hytrach na'r cwpl o ddyddiau i wythnos o dan yr hen ddeddfwriaeth.
Eglurodd Tristan Owen, Cyfarwyddwr Angladdau Tom Owen a'i Fab yn Llandudno, pa mor anodd oedd pethau i deuluoedd ers y newidiadau.
“Ers mis Medi’r llynedd a’r ddeddfwriaeth newydd, mae oedi wedi bod i angladdau ac nid yw teuluoedd yn gallu gweld eu hanwyliaid am gyfnod o hyd at dair wythnos,” meddai.
“Mae yna eithriadau, ond mae’r cyfnod yn gallu bod rhwng pythefnos a thair wythnos mewn ysbytai.
“Yn flaenorol byddai hynny wedi bod yn wythnos ar y mwyaf neu ychydig o ddiwrnodau.
“Mae cynnydd graddol wedi bod yn yr oedi. Mae'n creu gofid."
'Helpu gyda'u galar'
Ychwanegodd Tristan Owen ei fod ef a threfnwyr angladdau eraill wedi bod yn ceisio cydweithio gyda'r Gwasanaeth Iechyd.
“Fy mhrif bryder yw gofalu am y teuluoedd, dod â’r person sydd wedi marw yn ôl i’n gofal fel y gall y teuluoedd ymweld â nhw os ydyn nhw eisiau, a rhoi’r hyn sydd ei angen arnynt i’r teuluoedd o ran eu helpu gyda’u galar," meddai.
“Mae’n dipyn o waith ychwanegol i mi, ond mae’n peri gofid mawr i’r teuluoedd sydd eisiau dod i weld eu hanwyliaid neu barhau i alaru.
"A dweud y gwir, gall yr oedi hwn fod yn hynod ofidus yn y rhan fwyaf o achosion.
“Rwy’n credu bod y polisïau a’r prosesau wedi’u cyflwyno am y rhesymau cywir, ond mae’r effaith y maen nhw wedi’u cael wedi bod yn andwyol.
“Heb newidiadau neu welliannau sylweddol yn y broses, mae’r effaith yn gyffredinol negyddol yn hytrach na chadarnhaol.
“Rydyn ni wedi siarad â threfnwyr angladdau eraill. Rydym wedi siarad â gweithgorau sy’n aelodau o’r GIG a chofrestryddion ac eraill.
“Rydyn ni i gyd yn ceisio cydweithio, a does dim grwpiau unigol yn ei erbyn, ond dim ond y broses newydd sy’n achosi’r oedi.”
'Symleiddio'
Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dr Sree Andole, y “dylai’r broses fod mor syml â phosibl."
“Mae’r bwrdd iechyd wedi adolygu ei brosesau i sicrhau bod popeth yn ei le ac yn symud mor gyflym â phosibl," meddai.
“Mae ein Cyfarwyddwyr Meddygol Cyswllt ar gyfer Marwolaethau hefyd wedi gofyn am gyfarfod ag Archwiliwr Meddygol Arweiniol Cymru a grwpiau perthnasol eraill i archwilio’r mater hwn ymhellach ac i ystyried pa gamau ymarferol y gellir eu cymryd i fireinio a symleiddio’r prosesau hyn.”
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod ganddyn nhw 93 o lefydd ym marwdy Ysbyty Maelor Wrecsam, 69 yn Ysbyty Gwynedd, a 114 yn Ysbyty Glan Clwyd.
Ychwanegodd llefarydd ar ran y GIG: “Mae gennym ni hefyd ddefnydd o ddwy lleoliad dros dro y gallwn ni eu hadeiladu a’u defnyddio ar unrhyw safle os oes angen.”