Bocsiwr 28 oed wedi marw wythnos ar ôl gornest yn erbyn Cymro
Mae bocsiwr 28 oed o Iwerddon wedi marw ar ôl dioddef anaf difrifol mewn gornest yn erbyn Cymro.
Bu rhaid i John Cooney gael llawdriniaeth ar ôl dioddef gwaedlif mewngreuanol (intracranial haemorrhage) yn yr ornest yn erbyn Nathan Howells o Gasnewydd ym Melfast dydd Sadwrn diwethaf.
Cafodd ei asesu yn y cylch bocsio gan dîm meddygol cyn cael ei gludo i Royal Victoria Hospital ym Melfast.
Wrth glywed y newyddion trist am ei farwolaeth nos Sadwrn dywedodd Nathan Howells ar Instagram: "Rydw i newydd glywed y newyddion bod y gwaethaf wedi digwydd ac yn anffodus mae John wedi marw.
"Mae fy meddyliau gyda'i deulu a'i ffrindiau, sori am eich colled."
'Arbennig'
Cafodd yr ornest ei hatal yn y nawfed rownd yn yr hyn oedd yn frwydr i Cooney amddiffyn ei wregys pwysau plu Celtaidd.
Enillodd y paffiwr o Galway ei deitl gyda buddugoliaeth yn y rownd gyntaf dros Liam Gaynor ym mis Tachwedd 2023.
Mewn datganiad nos Sadwrn dywedodd ei deulu ei fod yn berson "arbennig."
“Hoffai Mr a Mrs Cooney a’i ddyweddi Emmaleen ddiolch i’r staff yn Ysbyty Brenhinol Victoria Belfast sydd wedi gweithio’n ddiflino i achub bywyd John ac i bawb sydd wedi anfon negeseuon o gefnogaeth," meddai MHD Promotions ar ran teulu
"Roedd yn fab, brawd a phartner annwyl iawn ac fe fydd yn cymryd oes i ni i gyd anghofio pa mor arbennig oedd e. RIP John 'The Kid' Cooney."