'Angen gweld mwy o blant yn derbyn addysg gynnar Gymraeg'
'Angen gweld mwy o blant yn derbyn addysg gynnar Gymraeg'
"Mr Hapus ydw i"
Cylch Meithrin Bro Teifi, Llandysul...
"Mr Tawel ydw i"
..a'r Gymraeg yn naturiol ar wefusau'r Cymry lleiaf.
"Mae'n gosod sylfeini cadarn i'r plant er mwyn parhau i'r addysg mewn ysgolion cynradd.
"Mae'r trawsnewid i'r ysgol yn llyfn."
Er bod nifer yr oriau sy'n cael eu cynnig gan gylchoedd meithrin wedi cynyddu'n sylweddol iawn dros y blynyddoedd diwethaf cynnydd bach sydd yn niferoedd y plant.
Datblygiad ceidwadol sydd ddim yn ddigon yn ol Prif Weithredwr Mudiad Meithrin er mwyn cyrraedd strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru a'r miliwn o siaradwyr.
"'Dan ni angen gweld llawer mwy o blant yn gallu cael eu gofal a'u haddysg blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Mae pob math o resymau cymhleth ynglyn a pham bod hynny'n digwydd yn llwyddiannus mewn rhai ardaloedd a ddim mor llwyddiannus mewn ardaloedd eraill.
"'Dan ni angen mwy o fuddsoddiad yng ngwaith Mudiad Meithrin ac yng ngwaith y cylchoedd meithrin."
Mae gafael yn y plant mor ifanc a hyn yn allweddol gyda ffigyrau'n dangos bod tua 90% o blant sy'n mynychu cylchoedd meithrin yn trosglwyddo i ysgolion cynradd Cymraeg.
"Trochi cynnar ydy'r ffordd mwyaf effeithiol o greu siaradwyr a cael teuluoedd cyfan i brynu mewn i addysg gyfrwng Gymraeg.
"Mae'r trywydd yn haws i rieni o ran penderfyniadau addysg blynyddoedd cynnar a symud i'r system addysg gyfrwng Gymraeg."
Mae'n werth craffu ar y ffigyrau.
Mae'r llinell yn gymharol gyson dros gyfnod o 12 mlynedd.
7,660 o ddisgyblion Blwyddyn 2 Cymru oedd yn derbyn addysg Gymraeg y llynedd.
Mae hynny'n 23.2% o holl ddisgyblion Blwyddyn 2 Cymru.
Ond 22.2% oedd y ffigwr yn 2011. Ydy'r cynnydd yn ddigon, felly?
Na, yn ol Comisiynydd y Gymraeg.
Mae angen shifft mewn polisi, meddai Efa Gruffudd Jones gyda chyn-Bennaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cytuno.
"Mae'n rhaid newid cyfeiriad. Y'n ni ar groesffordd ar hyn o bryd.
"Mae gennym ddarlun o gyrraedd miliwn o siaradwyr ond mewn gwirionedd, does dim byd yn newid.
"Heblaw bod newid sylweddol iawn ym mhob agwedd ar addysg Gymraeg a chynyddu'r niferoedd sy'n derbyn addysg Gymraeg d'yn ni byth am fod yn agos
at y miliwn.
"Mae elfen o dwyll gan y Llywodraeth.
"Maent yn rhoi'r darlun, ond nid y mecanwaith i gyrraedd at y nod."
Dywedodd llefarydd bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu defnydd dyddiol o'n hiaith.
Byddwn yn gwneud hyn drwy barhau i weithio i flaenoriaethu Bil y Gymraeg ac Addysg Cymru i gynnig gwersi Cymraeg am ddim i filoedd o bobl ifanc a'r gweithlu addysg, meddai.
Yma'n Llandysul, mae'r gofal a'r Gymraeg yn gryf ond y daith yn hir tua'r miliwn.