'Cau Porthladd Caergybi wedi cael effaith fawr ar y dref'
'Cau Porthladd Caergybi wedi cael effaith fawr ar y dref'
"Mae'r dref 'di newid yn ofnadwy fel dw i'n ei chofio hi.
"Mae'r rhan fwyaf o'r siopau 'di bordio fyny."
"Mae 'di bod yn ddistaw ofnadwy dros y Dolig a'r flwyddyn newydd.
"Mae'r tafarndai wedi mynd i lawr a does dim pobl o gwmpas."
Dydy heriau tref Caergybi bell o fod yn newydd.
Ond daeth y gaeaf hwn a'i anffawd unigryw wrth i Storm Darragh roi stop ar y cychod a'r porthladd ynghau am wythnosau.
Tra bod llif y traffig yn ei ôl, mi welwch chi ar hyd y stryd fawr waddol y difrod yn y porthladd ar fusnesau.
"I ni ar y stryd, gafodd o lot o effaith efo faint o bobl oedd yn dod yma, yn enwedig heddiw a jyst bore 'ma.
"Mae lot yn dod off y tren i fynd ar y cwch.
"Maent yn gwario pres a dod am fwyd a choffi."
"Tra roedd y porth 'di cau, doeddet ti ddim yn gweld llawer o hynny."
Mae'r hyn ddigwyddodd yn y porthladd yn dangos pa mor bwysig ydy o i Gaergybi.
"Jyst yn y cwpl o wythnosau cyntaf roedd lot o hogiau sy'n dod yma'n aml yn poeni am eu jobiau.
"Os yw'r port yn cau, mae cannoedd o jobiau.
"Roedd yn bosib iddynt gael eu gwneud yn redundant a that's it."
Ben arall lon hir yr A5 yn Llundain... cyfle heddiw i Aelodau Seneddol graffu.
Ond yn ol perchnogion y porthladd does dim modd datgelu beth yn union ddigwyddodd.
"Those incidents are now subject to an insurance claim.
"I can give no further details without prejudicing that claim."
"It's frustrating, but we understand where you're coming from."
Tra bod yr hyn ddigwyddodd yn ddirgelwch o hyd mae'r sylw'n troi at y gefnogaeth i'r dref a'i busnesau.
"Mae'r gweinidog ar gyfer trafnidiaeth Gogledd Cymru wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru am sefydlu tasglu gyda phartneriaid.
"Ers y cyhoeddiad yn y Senedd, dydyn ni fel cyngor sir heb gael unrhyw gysylltiad.
"Dydw i ddim yn ymwybodol o beth fydd cylch gorchwyl y tasglu."
Dod yn ol i'r hen drefn mae'r dref hon.
Mae dros 500 o bobl wedi'u cyflogi yn y porthladd.
Dros 400 yn fwy yn rhan o'r gadwyn gyflenwi yma a phawb i weld efo rhyw gysylltiad.
"Roeddwn i'n poeni. Mae gen i deulu'n gweithio yno.
"Roeddwn yn poeni bod eu swyddi mewn perygl.
"Ella fydda nhw'n gorfod gweithio i ffwrdd neu heb waith o gwbl a pha mor hir roedd am gymryd i drwsio."
Sut maen nhw erbyn hyn?
"Yn well. Mae o'n falch bod ei swydd dal yna."
O grwydro'r dref, buan dach chi'n sylwi pwysigrwydd y porthladd ac effaith y cau.
"Dw i'n ffrindiau efo rhai sy'n gweithio lawr yn y docs.
"Roedden nhw wedi gorfod mynd i Lerpwl am dros fis.
"Doedd dim gwaith iddyn nhw fan hyn."
Pa mor anodd oedd hi i'r bobl oedd yn gweithio yn y porthladd?
"Roedd rhaid iddynt fynd i Lerpwl a Fishguard i weithio.
"Teithio yno ac yn ol adref."
"Fel chippy, mae rhai pobl yn dod i mewn drwy'r amser.
"'Dan ni'n ddistaw pan dydy pobl ddim yn dod drwy'r port."
Heb bobl yn dod drwy'r porthladd, roedd hi'n ddistawach?
"Ia."
Megis dechrau mae'r gwaith o asesu'r golled i'r porthladd a'r dref.
Er addewid cwmni Stena am eu hymrwymiad i Gaergybi mae digon o gwestiynau eto i'w hateb.