Cyn-reolwr Cymru Mark Hughes wedi ei benodi'n reolwr Carlisle United
Mae cyn-reolwr a chyn-ymosodwr Cymru Mark Hughes wedi ei benodi'n rheolwr newydd ar Carlisle United.
Cafodd ei benodi ddydd Iau gyda'r clwb ar waelod Adran Dau.
Yn ystod ei yrfa mae Hughes, sydd yn 61 oed, wedi bod yn rheolwr ar wyth clwb, dros gyfnod o 26 o flynyddoedd.
Yn yr amser hwnnw mae wedi bod yn rheolwr dros bron i 700 o gemau a dros 500 o'r rheiny yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Tra'n chwaraewr enillodd Cwpan yr FA, Tlws Cwpan Enillwyr UEFA, Cwpan y Gynghrair a'r Uwch Gynghrair.
Dyma ei swydd gyntaf ers iddo gael ei ddiswyddo gan Bradford ym mis Hydref 2023.
Dywedodd Cyfarwyddwr Chwaraeon Carlisle, Rob Clarkson, y bydd y chwaraewyr yn gweddu y ffordd mae Hughes am iddyn nhw chwarae ar y cae.
"Dwi wrth fy modd gyda phenderfyniad Mark i gytuno i ymuno â Carlisle United," meddai.
"Mae ei brofiad yn y byd pêl-droed yn dweud bob dim mae angen i chi wybod. Mae'n rhywun fydd yn cael ei barchu gan chwaraewyr a staff a dwi'n edrych ymlaen at gydweithio gydag ef.
"Bydd y chwaraewyr yma yn gweddu i'r ffordd y mae ef eisiau chwarae a dwi'n siŵr bydd ein cefnogwyr yn ei gefnogi ef a'r chwaraewyr yn yr 18 gêm sy'n weddill."