Newyddion S4C

'Argyfwng iechyd cudd': Un o bob pump yn byw â diabetes yn y DU

06/02/2025
Diabetes

Fe allai hyd at un ym mhob pump o bobl fod yn byw â chyflwr diabetes yn y Deyrnas Unedig, yn ôl ffigyrau newydd.  

Y gred yw bod un ym mhob pump o bobl yn byw â diabetes neu mewn perygl o ddatblygu’r cyflwr gan fod lefelau siwgr eu gwaed yn uwch na’r arfer, medd elusen Diabetes UK. 

Maen nhw’n dweud bod yna filiynau o bobl sydd heb gael diagnosis eto yn rhan o’u dadansoddiad. 

Mewn llythyr agored i’r Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Iechyd, mae’r elusen wedi rhybuddio bod y wlad yn wynebu “argyfwng iechyd cudd” gan alw ar Lywodraeth y DU i weithredu ar frys. 

Maent yn galw ar y llywodraeth i sicrhau fod y rheiny sy’n byw â chyflwr diabetes yn ddiarwybod iddyn nhw yn cael diagnosis “ar unwaith.” 

Maen nhw hefyd galw am fwy o fuddsoddiad er mwyn datblygu cynlluniau all fynd i’r afael â’r cyflwr drwy helpu pobl deall sut i’w atal. 

Mwy o bobl nac erioed yn byw â diabetes

Yn ôl ffigyrau’r elusen, mae 4.6 miliwn o bobl wedi cael diagnosis diabetes yn y DU – sef y nifer fwyaf o bobl ar gofnod.

Mae hynny'n gynnydd o 200,000 o'r llynedd, medden nhw.

Mae tua 8% o bobl yn byw â diabetes math 1 sy’n golygu nad oes modd i berson gynhyrchu inswlin, sef hormon sy’n helpu’r corff i droi glwcos yn egni.

Mae tua 90% yn byw â diabetes math 2 a hynny’n golygu bod y corff ddim yn defnyddio inswlin fel y dylai. Mae 2% o bobl yn byw â mathau prin o’r cyflwr yn ogystal.

Mae Diabetes UK hefyd yn rhybuddio bod 1.3 miliwn o bobl yn byw â diabetes math 2 ond heb gael diagnosis.

Maen nhw’n dweud fod tua 6.3 miliwn o bobl bellach mewn perygl o ddatblygu’r clefyd gan fod lefelau eu siwgr yn uwch na’r arfer, sef cyflwr ‘prediabetes’. 

'Angen gofal gwell'

Dywedodd prif weithredwr Diabetes UK, Colette Marshall, bod y ffigyrau diweddaraf yn destun o’r "creisis rydym yn ei wynebu."

Mae’n galw am “well ofal” a “chefnogaeth” er lles pobl sy’n byw â diabetes. 

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU ei fod yn “hynod o bryderus” bod gymaint o bobl yn byw â diabetes math 2. 

Dywedodd eu bod wedi ymrwymo i helpu pobl “byw bywyd iachus am gyfnod hirach” fel rhan o gynllun iechyd 10 mlynedd o hyd. 

“Rydym yn cymryd camau i fynd i’r afael â ffordd o fyw pobl sy’n gysylltiedig â diabetes math 2 yn uniongyrchol, gan gynnwys cyfyngu ar hysbysebion bwyd sothach ar y teledu ac ar-lein,” meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.