Newyddion S4C

Trigolion yn protestio yn erbyn 'drewdod ac effaith' safle tirlenwi yn Wrecsam

04/02/2025

Trigolion yn protestio yn erbyn 'drewdod ac effaith' safle tirlenwi yn Wrecsam

Mae'r lle yma wedi bod yn ddadleuol o'r cychwyn.

O'r cais cynllunio yn y '90au i'r loriau cyntaf wnaeth gario gwastraff yma o Lannau Mersi yn 2006.

Bron i 20 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r protestwyr yn ôl wrth i drigolion dalgylch dair milltir i ffwrdd ddeud na allen nhw ddioddef rhagor o'r drewdod sy'n codi o 'ma.

"Ofnadwy. Ofnadwy. Mae'n dwad i fewn i'r tŷ."

Yn y gaeaf hefyd?

"Ia, dw i'n poeni beth mae e'n neud to our bodies."

Dydy'r arogl ddim yn taro rhywun mor ofnadwy a hynny Heddiw ond mae o'n sicr i'w glywed ac yn cyrraedd cyn belled a Rhiwabon a Rhostyllen dair milltir i ffwrdd yn ôl trigolion yno.

Maen nhw'n deud ei fod o'n annioddefol.

Flwyddyn yn ôl cafodd perchnogion y safle eu gorchymyn i wneud gwelliannau ar y rheoli nwyon ac arogleuon ar ôl torri amodau eu trwydded.

Cafodd y safle ei drafod yn y Senedd yr wythnos hon.

Mae gwleidyddion lleol yn galw ar Gyngor Wrecsam i gefnogi cau'r safle oni bai bod pethe'n gwella.

Bydd y cynnig yn cael ei ystyried gan y Cyngor Llawn fis nesaf. Does dim grym swyddogol ganddynt dros y safle.

"Mae'r loriau'n dod o du allan i'r sir. Dydy gwastraff domestig Wrecsam ddim yn cael ei landfillio.

"Yn anffodus, landfill o siroedd eraill ydy'r rhain. Rhai yng Nghymru ond y mwyafrif o ogledd-orllewin Lloegr.

"Mae'n hen bryd iddynt ddelio efo gwastraff eu hunain."

Mae'r perchnogion, cwmni Enovert o Stafford yn deud eu bod wedi gwneud gwaith ar leihau nwyon ac arogleuon a'u bod yn blaenoriaethu lleihau'r effaith ar y gymuned.

Maen nhw'n pwysleisio eu bod yn cadw at amodau llym eu trwydded i sicrhau nad ydy'r safle yn achosi niwed iechyd.

Mae'r drwydded honno'n dod gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedon nhw eu bod yn deall pryder yn y gymuned ac yn monitro'r safle.

Mae ein swyddogion wedi cadarnhau'r arogleuon ac wedi neilltuo adnoddau i sicrhau bod y gweithredwyr yn cydymffurfio a gofynion y drwydded.

Dim ond os credwn fod y gwaith yn risg ddifrifol i'r amgylchedd neu iechyd dynol a bod pob mesur arall i leihau'r arogl 'di methu fyddwn ni'n diddymu trwydded.

Ar hyn o bryd mae'r perchnogion yn ceisio mynd i'r afael a'r broblem.

Parhau fydd y loriau am y tro, ac yn bosib iawn, y drewdod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.