Arestio merch 14 oed ar amheuaeth o ymosod ar ferch arall mewn parc sglefrio
Mae merch 14 oed wedi'i harestio ar amheuaeth o ymosod ar ferch 12 oed mewn parc sglefrio mewn tref yn Sir Benfro.
Fe gafodd swyddogion yr heddlu eu galw i'r ymosodiad honedig yn y parc ar Stryd Bush yn Doc Penfro am tua 17.00 ddydd Mawrth 21 Ionawr.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod merch arall yn ei harddegau hefyd wedi cael ei chyfweld a’i rhyddhau o dan ymchwiliad
Fe gafodd y ferch 12 oed ei chludo i'r ysbyty i gael triniaeth yn dilyn y digwyddiad, ond mae hi bellach wedi cael ei rhyddhau.
Dywedodd y Rhingyll Haydon Mathias fod yr heddlu'n ymwybodol bod fideo o'r digwyddiad wedi'i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Mae hwn yn ymosodiad arbennig o dreisgar a ddigwyddodd mewn man cyhoeddus yng ngolau dydd," meddai.
"Mae'n drist ei fod wedi'i recordio gan wylwyr a'i ddosbarthu ar-lein. Mae wedi achosi trallod a gofid sylweddol i’r dioddefwr a’i theulu.
"Nid oes lle i ddigwyddiadau fel y rhain mewn cymdeithas ac rydym wedi cymryd camau priodol yn erbyn y rhai a fu’n gyfrifol yn y digwyddiad hwn."