Newyddion S4C

‘Mor bwysig i bob athro’: Athrawes yn croesawu euogfarn disgybl Dyffryn Aman

‘Mor bwysig i bob athro’: Athrawes yn croesawu euogfarn disgybl Dyffryn Aman

Mae athrawes a gafodd ei thrywanu gan ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Aman y llynedd wedi dweud bod euogfarn y ferch 14 oed yn “mor bwysig i bob athro”.

Cafodd y ferch, nad oed modd ei henwi oherwydd ei hoedran, ei dyfarnu’n euog o dri chyfrif o geisio llofruddio yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun.

Roedd y ferch wedi gwadu ceisio llofruddio dwy athrawes, Fiona Elias a Liz Hopkin, a disgybl yn yr ysgol yn Sir Gaerfyrddin ar 24 Ebrill y llynedd.

Ond fe wnaeth y rheithgor ei chael yn euog o bob cyfrif. Bydd yn cael ei dedfrydu ar 28 Ebrill.

Wrth ymateb i’r euogfarn, dywedodd un o’r athrawon a gafodd ei thrywanu, Fiona Elias, y tu allan i’r llys ei bod wedi “dioddef hunllef” dros y naw mis diwethaf yn dilyn y digwyddiad.

Fe wnaeth hefyd ddiolch i’w chydweithiwr, Liz Hopkin, a gafodd hefyd ei thrywanu.

“Oni bai am ei dewrder, mae’n bosibl na fyddai yma heddiw. Mae fy nyled yn fawr i ti Liz, ac nid yw’r gair 'diolch' yn ddigon,” meddai. 

Dywedodd ei bod yn dymuno cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Gâr er mwyn trafod diogelwch athrawon.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, a swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod â Fiona Elias, y pennaeth, a chadeirydd y llywodraethwyr y llynedd, yn dilyn y digwyddiad.  

'Dyfarniad mor bwysig'

Dyma’r hyn yr oedd gan Fiona Elias i’w ddweud yn ei gyfanrwydd:

“O ran y rheithfarn heddiw, fel rhiant ac athrawes, nid oes neb eisiau gweld merch yn cael ei chosbi am geisio llofruddio.

“Fodd bynnag, roedd y digwyddiad ar 24 Ebrill yn gwbl annerbyniol.

“Mae’r euogfarn yma heddiw yn ddyfarniad mor bwysig, nid yn unig i fi, ond i bob athro.

“Ni ddylai unrhyw aelod o staff mewn ysgol deimlo’n ofnus am ei ddiogelwch ei hun wrth gyflawni dyletswyddau o ddydd i ddydd a gofyn i ddisgyblion gyd-ymffurfio gyda rheolau’r ysgol.

“Hoffwn wahodd yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru i gwrdd â mi er mwyn cynnal trafodaethau, gan fy mod am sicrhau nad oes unrhyw aelod o staff yn mynd trwy’r hyn yr aeth Liz a finnau trwyddo ym mis Ebrill y llynedd.

“Mae trais geiriol a chorfforol tuag at aelodau staff yn gwbl annerbyniol, ac mae’n rhaid sicrhau nad yw’r digwyddiad hwn yn digwydd eto yn unman arall.

“Dylid ystyried y dyfarniad hwn heddiw fel neges glir i ddisgyblion ledled y wlad."

Hunllef

Fe aeth Fiona Elias ymlaen i ddweud: “Ni fyddwn am i unrhyw unigolyn arall fynd trwy’r hunllef yr wyf wedi dioddef yn ystod y naw mis diwethaf.

“I unrhyw unigolyn arall sydd wedi bod trwy brofiad o’r fath, byddwch yn gwybod na fydd yr hunllef a’r trawma a brofwyd yn dod i ben heddiw gyda’r euogfarn.

“Hoffwn ddiolch i fy nheulu a fy ffrindiau sydd wedi fy nghefnogi trwy gyfnod mor anodd, ac wrth gwrs cymuned gwych Ysgol Dyffryn Aman: fy nghyd-weithwyr; disgyblion presennol a chyn-ddisgyblion sydd wedi cysylltu gyda fi; y rhieni a’r gymuned ehangach, pob un wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad mis Ebrill.

“I unrhyw un sydd wedi bod yn ddigon ffodus i ymweld gyda’r ysgol, byddwch wedi cael profiad uniongyrchol o awyrgylch clos, teuluol yr ysgol.

“Yn dilyn y digwyddiad codwyd dros £10,000 tuag at Wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru, Sefydliad Jac Lewis yn Rhydaman ac elusennau eraill oedd mor barod i gefnogi’r ysgol yn ystod cyfnod oedd mor anodd.

“Unwaith eto, mae hyn yn destament i’r gymuned wych rwyf mor ffodus i fod yn rhan ohoni.

“Ac yn olaf, diolch i Liz. Oni bai am ei dewrder, mae’n bosibl na fyddai yma heddiw.

“Mae fy nyled yn fawr i ti Liz, ac nid yw’r gair diolch yn ddigon.”

Ymateb

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Mae ein meddyliau gyda Fiona Elias a phawb sydd wedi’u heffeithio gan yr achos hwn.

“Byddwn yn trefnu i gwrdd â Fiona eto i drafod ei phrofiadau, fel rhan o’n camau parhaus i wella diogelwch ysgol.”

Mewn datganiad ddydd Llun dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price, ei fod yn “mawr obeithio y bydd dyfarniad heddiw yn caniatáu i'r dioddefwyr a'r ysgol symud ymlaen.” 

“Gan fod yr achos wedi dod i ben, bydd yr holl bartneriaid yn cydweithio yn awr i adolygu amgylchiadau'r achos hwn ac i sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i atal digwyddiad o'r fath rhag digwydd eto,” meddai. 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.