Amgueddfa Genedlaethol yn gobeithio ail agor 'yn y dyddiau nesaf'
Mae gobaith y bydd yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd yn ail-agor yn y 'dyddiau nesaf' ar ôl cael ei chau yn sgil ‘pryderon iechyd a diogelwch’.
Ddydd Sul, bu’n rhaid i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gau am gyfnod amhenodol “oherwydd materion cynnal a chadw’r adeilad a phryderon iechyd a diogelwch”.
Mewn datganiad, dywedodd Amgueddfa Cymru mai ‘problem fecanyddol gafodd ei hachosi gan fethiant cydran’ oedd y rheswm dros gau’r adeilad.
Maen nhw bellach wedi cyhoeddi eu bod yn gweithio gydag arbenigwyr er mwyn asesu’r sefyllfa a “thrwsio’r mecanwaith”, ac yn “gobeithio y caiff y materion hyn eu datrys dros y dyddiau nesaf.”
“Diogelwch a lles ein hymwelwyr, gwirfoddolwyr a staff, a diogelu ein casgliadau, yw ein prif flaenoriaeth, a dyma'r rheswm dros gymryd y camau priodol a chau'r amgueddfa dros dro,” meddai’r datganiad.
“Mae ein timoedd yn gweithio'n ddyfal i ddatrys y broblem yn gyflym ac yn effeithiol yn ogystal â sicrhau'r effaith lleiaf posibl ar ein hymwelwyr.”
Mae Amgueddfa Cymru yn dweud eu bod yn ymddiheuro’n "ddiffuant" am unrhyw anghyfleustra achoswyd.