Newyddion S4C

Beyoncé a Kendrick Lamar yn ennill prif wobrau'r Grammys

03/02/2025
Beyonce

Beyoncé a Kendrick Lamar oedd enillwyr prif wobrau'r Grammys mewn seremoni yn Los Angeles nos Sul.

Enillodd Beyoncé y wobr am yr albwm orau gyda'i halbwm Cowboy Carter, sydd yn dathlu gwreiddiau du canu gwlad.

Mae hi wedi ennill 35 Grammy ar hyd y blynyddoedd ond dyma'r tro cyntaf iddi ennill y brif wobr.

Llwyddodd i drechu Taylor Swift, Sabrina Carpenter a Chapell Roan i hawlio'r brif wobr.

Wrth dderbyn y wobr dywedodd Beyoncé ei bod yn "anrhydedd" iddi hi.

Fe wnaeth yr albwm Cowboy Carter hefyd ennill y wobr am yr albwm canu gwlad orau.

Tanau Los Angeles

Cafodd y noson wobrwyo ei chynnal yn Los Angeles, ychydig wythnosau wedi i danau difrifol yno ladd nifer o bobl a dinistrio miloedd o dai a busnesau.

Cododd trefnwyr y Grammys dros $7 miliwn (£5.7 miliwn) i’r rhai oedd wedi eu heffeithio gan y tanau.

Dywedodd y digrifwr Trevor Noah, a gyflwynodd y seremoni: “Ychydig wythnosau yn ôl, nid oeddem yn siŵr a fyddai’r sioe hon yn digwydd hyd yn oed.

“Diolch byth, oherwydd ymdrechion arwrol y diffoddwyr tân, mae’r tanau bellach wedi’u cyfyngu, ac er gwaethaf yr holl ddifrod, mae ysbryd y ddinas wedi dod i’r amlwg."

Cafodd ddiffoddwyr tân eu gwahodd i'r gwobrau, ac fe gerddon nhw dros y carped coch gan dynnu eu lluniau gyda sêr mwyaf y byd cerddoriaeth.

Wrth dderbyn y wobr am record y flwyddyn, fe wnaeth Kendrick Lamar ddiolch i Los Anegeles, ei ddinas enedigol.

"Mae hon i'r ddinas. I Compton, Long Beach Inglewood, Hollywood... dyma fy rhan i o'r ddinas dwi wedi byw ynddi ers roeddwn yn blentyn bach."

Enillwyr y noson

Fe wnaeth y seren bop Brydeinig Charli XCX ennill tair gwobr, gan gynnwys albwm ddawns/pop orau am ei halbwm Brat.

The Beatles gipiodd y wobr am y perfformiad roc gorau ar gyfer eu cân Now and Then - 55 o flynyddoedd ers i'r band chwalu.

Roedd modd cwblhau'r gân trwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI).

Chapell Roan oedd enillydd y wobr am yr artist newydd gorau, gyda'r rapiwr o Florida Doechii yn ennill yr albwm rap orau.

Roedd dwy wobr i Sabrina Carpenter: perfformiad pop unigol gorau am ei chân Espresso ac albwm pop gorau ar gyfer ei halbwm Short n' Sweet.

Fe allwch chi weld rhestr o'r enillwyr i gyd fan hyn.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.