Sylfaenydd Slimming World, Margaret Miles-Bramwell wedi marw
Mae sylfaenydd y cwmni colli pwysau, Slimming World, Margaret Miles-Bramwell wedi marw yn 76 oed.
Bu farw fore Sul wedi’i hamgylchynu gan ei theulu ar ôl iddi “gyffwrdd â chalonnau a newid bywydau miliynau o bobl”, meddai’r cwmni.
Fe sefydlodd Slimming World, sy'n darparu cynlluniau bwyd a sesiynau grŵp wythnosol ar gyfer rheoli pwysau, yn Alfreton, Sir Derby, yn 1969.
Roedd hi bellach yn byw ar ynys Mallorca.
Fe dderbyniodd Ms Miles-Bramwell anrhydedd OBE am ei gwasanaethau i iechyd y cyhoedd ym Mhrydain yn 2009, sef blwyddyn pen-blwydd y cwmni yn 40 oed.
Wrth siarad am ei gyrfa ar ôl iddi dderbyn ei hanrhydedd, dywedodd: “Yn y dyddiau cynnar, yn y chwedegau, roedd rhywfaint o help o gwmpas, ond y math oedd yn defnyddio tactegau bychanu.
“Ro’n i wir yn teimlo bod angen i ni drin pobl dros bwysau gyda pharch a chwrteisi ac fel oedolion ac nid fel plant oedd angen slap neu rywbeth. Dyna oedd wir wedi fy ysbrydoli.”
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Slimming World Lisa Salmon: “Llywiodd Margaret ei llong yn y ffordd yr oedd hi’n byw ei bywyd – gydag ysbryd hael, argyhoeddiad angerddol, synnwyr digrifwch drygionus (a gwrthryfelgar!) a chred angerddol i wneud y peth iawn.
“Ein gwaith nawr yw parhau i gadw ei hetifeddiaeth yn fyw trwy wneud yr un peth.”