Newyddion S4C

Cyhuddo dyn o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad tu allan i orsaf heddlu

Tonysguboriau

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhuddo dyn 27 oed o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad y tu allan i orsaf heddlu yn Rhondda Cynon Taf.

Dywedodd y llu fod Alexander Stephen Dighton, o Lantrisant, wedi ei gyhuddo o saith trosedd yn dilyn y digwyddiad y tu allan i Orsaf Heddlu Tonysguboriau nos Wener. 

Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Merthyr Tudful fore Llun.

Mewn datganiad ddydd Sul dywedodd y llu: “Ychydig cyn 7pm nos Wener, 31 Ionawr, aeth dyn i Orsaf Heddlu Tonysguboriau a dechrau difrodi cerbydau'r heddlu.

“Heriodd swyddogion y dyn ac yn ystod brwydr dreisgar, cafodd tri swyddog eu hanafu. Cafodd dau swyddog eu cludo i'r ysbyty a chael triniaeth ar gyfer eu hanafiadau. Mae'r ddau swyddog wedi gadael yr ysbyty ers hynny."

Mae Alexander Stephen Dighton hefyd wedi ei gyhuddo o ymosod ar weithiwr brys, ymosod, cynnau tân yn fwriadol, achosi difrod troseddol, bod ag arf ymosodol yn ei feddiant, a bod â chyllell/llafn yn ei feddiant. 

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Stephen Jones: “Hoffwn ddiolch i’r gymuned leol a’r cyhoedd yn ehangach am eu cefnogaeth i’r swyddogion dan sylw. 

"Dangosodd ein swyddogion ddewrder mawr a meddwl cyflym yn ystod y digwyddiad ac er gwaethaf cael eu hysgwyd, sy'n ddealladwy, rwy’n falch iawn o nodi na chafodd yr un o’r swyddogion dan sylw unrhyw anafiadau difrifol.”

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.