Newyddion S4C

Tony Martin a laddodd leidr yn ei ffermdy wedi marw

Tony Martin

Mae Tony Martin, a gafodd ei ddyfarnu'n euog o lofruddio llanc a oedd wedi torri i mewn i'w ffermdy yn 1999, wedi marw yn 80 oed.

Roedd marwolaeth Fred Barras yng nghartref Tony Martin yn Norfolk yn ddadleuol tu hwnt ar y pryd, gyda barn y boblogaeth am y dyfarniad wedi ei hollti. 

Roedd rhai yn teimlo bod Tony Martin wedi bwriadu lladd y llanc 16 oed, tra roedd eraill yn credu ei fod yn ffermwr a oedd yn amddiffyn ei hun a'i eiddo.  

Roedd yn byw ar ei ben ei hun yn ei ffermdy, pan aeth Brendon Fearon a oedd yn 29 ar y pryd, a Fred Barras yno i ladrata ar 20 Awst 1999.

Tani0dd ei wn deirgwaith tuag at y ddau gan ladd Fred Barras .

Cafodd ei garcharu yn 2000 am lofruddio Fred Barras ac am anafu Brendan Fearon.  

Cafodd Tony Martin ei ryddhau o garchar dair blynedd yn ddiweddarach, wedi i'r euogfarn ostwng o lofruddiaeth i ddynladdiad.  

Dywedodd ei ffrind Malcolm Starr, iddo farw mewn ysbyty ddydd Sul ar ôl dioddef strôc fis Rhagfyr.  

Wrth gyfeirio at ei achos, ychwanegodd "Rydw i'n credu mai ei onestrwydd a arweiniodd at ei sefyllfa, am na allai ddweud celwydd. 

" Rydw i'n dal i fynnu, sut mae modd gwybod sut y byddai rhywun yn ymateb, hyd nes i chi wynebu hynny? 

"Dydw i ddim yn credu bod modd darogan sut y byddech yn ymddwyn petai rhywun yn dod i mewn i'ch cartref."

Llun: Wochit 

  

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.