Newyddion S4C

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gau oherwydd ‘pryderon iechyd a diogelwch’

02/02/2025
Amgueddfa Caerdydd

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wedi cau i’r cyhoedd am gyfnod amhenodol “oherwydd materion cynnal a chadw’r adeilad a phryderon iechyd a diogelwch”.

Dywedodd yr Amgueddfa mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol fore Sul bod yr adeilad ym Mharc Cathays wedi cau "tan hysbysiad pellach."

Mewn datganiad pellach, mae Amgueddfa Cymru yn dweud iddyn nhw wneud " y penderfyniad anodd i gau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd dros dro i’r cyhoedd am gyfnod byr" oherwydd gwaith cynnal a chadw angenrheidiol.

"Mae diogelwch a lles ein hymwelwyr, staff, a chadwraeth ein casgliadau bob amser yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i ni a dyna pam yr ydym wedi cymryd y mesur tymor byr hwn i gau’r amgueddfa," meddai'r datganiad. 

"Er bod cau’r amgueddfa yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod yr adeilad yn bodloni’r holl safonau diogelwch, rydym yn cydnabod yr effaith y gallai hyn ei gael ar ein hymwelwyr, gwirfoddolwyr a’r gymuned. 

"Mae ein tîm yn gweithio'n ddiwyd i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd ac i wneud yr atgyweiriadau a'r gwelliannau angenrheidiol i warantu diogelwch pawb sy'n rhyngweithio â'r amgueddfa.

"Byddwn yn parhau i asesu’r sefyllfa a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd ond rydym yn obeithiol y bydd y materion hyn yn cael sylw dros y dyddiau nesaf." 

Mae'r amgueddfa wedi ymddiheuro’n ddiffuant am unrhyw anghyfleustra. 

Blwyddyn anodd

Y llynedd, daeth rhybudd y gallai Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd orfod cau oherwydd bod ei gyflwr yn dirywio. 

Wedi hynny, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai £3.2m yn cael ei neilltuo ar gyfer gwaith atgyweirio i'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd a'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Yn ystod y flwyddyn fe ddiflannodd 144 o swyddi o fewn Amgueddfa Cymru, sy'n cynrychioli Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a hanner dwsinau o amgueddfeydd eraill.  

Dywedodd Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru fis Rhagfyr bod "teimlad o gynnwrf" ar gyfer y dyfodol wedi un o'r blynyddoedd mwyaf anodd yn ei hanes. 

Eglurodd Jane Richardson wrth aelodau o'r Senedd bryd hynny fod 144 o swyddi wedi diflannu o fewn yr amgueddfa yn y flwyddyn ddiwethaf, ond nad oedd disgwyl mwy o ddiswyddiadau.

"Mae wedi bod yn flwyddyn anodd, a mae 'na adegau tywyll iawn wedi bod i rai o'n cyd-weithwyr," meddai. Ond ar y cyfan, fe fyddwn i'n dweud fod morâl yn gwella'n sylweddol. Ac mae 'na deimlad gwirioneddol o gynnwrf wrth edrych ymlaen."

Cafodd Ms Richardson ei phenodi'n brif weithredwr ychydig cyn cyhoeddiad o doriad o 10% yng nghyllideb Amgueddfa Cymru dros flwyddyn yn ôl.

Dywedodd fis Rhagfyr na fyddai mwy o ddiswyddiadau, cau safleoedd, na chodi tâl am fynediad dan ystyriaeth bellach. 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth Newyddion S4C: “Rydym yn ymwybodol bod angen cau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am rai dyddiau er mwyn mynd i’r afael â mater cynnal a chadw. Mae Amgueddfa Cymru yn bwriadu datrys hyn cyn gynted â phosibl. 

“Rydym wedi darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod sefydliadau diwylliannol Cymru yn cael eu diogelu a’u cadw, gan gynnwys £1.3m a ddyfarnwyd y flwyddyn ariannol hon ar gyfer gwaith brys sy’n cael ei wneud yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae £3.7m pellach wedi’i gynnwys yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2025-26.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.