Americanwr i hyfforddi fel cwnselydd Cymraeg ar ôl dysgu'r iaith mewn blwyddyn
Americanwr i hyfforddi fel cwnselydd Cymraeg ar ôl dysgu'r iaith mewn blwyddyn
"Nes i ganfod cariad dros wbath o'dd ddim yn person."
Yn wreiddiol o dalaith Wyoming yn yr Unol Daleithiau, mae Parker, 32 oed, wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg mewn cwta flwyddyn.
Fe ddechreuodd yr Americanwr ar ei daith dysgu Cymraeg ym mis Tachwedd 2023 ar ôl iddo symud i Drefriw yng Nghonwy gyda'i gyn-gariad.
Gyda chefnogaeth Menter Iaith Conwy, mae Parker bellach yn gallu siarad yr iaith yn hyderus ac yn gobeithio hyfforddi fel cwnselydd Cymraeg.
"Ma' dysgu Cymraeg 'di newid fy mywyd yn hollol," meddai wrth siarad â Newyddion S4C.
"Nath ffrind fi Meirion, bos fi wan, nath o ddysgu fi’r dywediad cwpan mewn dŵr – o’n i'n union fel 'na, jyst mewn perthynas ar ôl perthynas oedd jyst di-ben.
"Doedd gen i ddim cyfeiriad fy hun... Efo’r Cymraeg, gesh i hwnna."
Cysylltiad gyda'i deulu
Mae Parker, sydd bellach yn byw ym Methesda yng Ngwynedd, wedi rhoi cynnig ar ddysgu sawl iaith, gan gynnwys Eidaleg.
Ond dywedodd ei fod yn angerddol dros y Gymraeg oherwydd ei bod yn ei gysylltu gyda theulu ei dad a oedd yn wreiddiol o Gymru.
"Dw i’n teimlo’n angerddol dros y Gymraeg achos ma' hi’n iaith brodorol," meddai.
"Ac efo ieithoedd brodorol, dw i’n meddwl ma' nhw’n cysylltu ni efo’r tirwedd a'n hanes ni – jyst bod yn rhan o wbath sy’n fwy na ni."
Ac yntau wedi dysgu'r iaith, mae Parker yn bwriadu hyfforddi fel cwnselydd cyfrwng Cymraeg.
Bydd yn dechrau'r cwrs dwy flynedd ym Mhrifysgol Bangor ym mis Medi – a hynny yn y gobaith o helpu eraill.
"Dw i’n meddwl bod o’n rili pwysig i bobl cael y cyfle i gael siarad yr iaith bo' nhw isho er mwyn neud iechyd meddwl nhw," meddai.
"Achos ma' mamiaith yn cysylltu efo ti mewn ffordd gwahanol, mae'n fwy greddfol.
"Ti angen y cyfrwng i fod yn wbath sy’n cyd-fynd efo hwnna, sy’n gallu cyfathrebu hwnna’n uniongyrchol, yn lle goro mynd trwy cyfrwng arall."
Ychwanegodd: "Mae’n wbath llethol i disgwyl pobl i neud, siarad am problemau eu hunain mewn iaith sydd ddim yn iaith nhw."
'Diolchgar'
Dywedodd Parker ei fod yn ddiolchgar i Fenter Iaith Conwy, lle mae'n gwirfoddoli unwaith yr wythnos.
"Mae Menter Iaith Conwy wedi helpu fi gymaint ar y daith dysgu Cymraeg, yn bendant Meirion [Davies]," meddai.
"Nath o greu rhaglen i fi gael gwirfoddoli yn fan 'ma a trwy'r gwirfoddoli o'n i'n ymdrochi yn yr iaith trwy'r adeg."
Ychwanegodd bod y fenter yn "gwneud cymaint" dros yr iaith yng Nghonwy.
"Hebdda nhw does 'na ddim digwyddiadau Cymraeg, cyngherddau a nosweithiau cwis," meddai.
"Maen nhw'n rhyw fath o hwb i drefnu pobl a helpu nhw dod at ei gilydd i neud pethau ddigwydd.
"Dw i jyst yn meddwl bod y gwaith maen nhw'n neud mor anhygoel."