Newyddion S4C

Gwledydd yn taro'n ôl yn erbyn tollau Trump

Donald Trump ar ddiwrnod ei urddo

Mae Canada a Mecsico wedi taro'n ôl yn erbyn America, ar ôl i’r Arlywydd Trump osod trethi mewnforio o 25% ar nwyddau o'r ddwy wlad.

Yn ogystal mae Donald Trump wedi gosod trethi o 10% ar fewnforion o China.

Cyhoeddodd Prif Weinidog Canada, Justin Trudeau, dollau cyfatebol o 25% ar $155bn o nwyddau UDA. 

Bydd $30bn yn dod i rym ddydd Mawrth a'r gweddill, sef $125bn ymhen 21 niwrnod.

Ymhlith y nwyddau sydd wedi eu targedu gan Ganada, mae cwrw a gwin Americanaidd, ffrwythau, llysiau, dillad, esgidiau, yn ogystal â nwyddau ar gyfer y cartref a dodrefn.    

Dywedodd Arlywydd Mecsico, Claudia Sheinbaum, y bydd hi hefyd yn cyflwyno mesurau yn taro'n ôl yn erbyn Donald Trump, gan gynnwys tollau ar yr Unol Daleithiau.

Fe fydd y tollau ar nwyddau Canada, Mecsico a China’n dod i rym o hanner nos ddydd Mawrth 4 Chwefror, yn ôl gorchmynion gweithredol sydd wedi eu llofnodi gan Mr Trump.

Fe fydd gan fewnforion ynni o Ganada dollau is o 10%, meddai'r Tŷ Gwyn.

Mae China wedi dweud y bydd yn gweithredu "gwrthfesurau cyfatebol" ac mae'n bwriadu cofnodi achos cyfreithiol gyda Sefydliad Masnach y Byd.

Yn ôl Arlywydd America, codi tollau yw'r unig opsiwn oherwydd "pryderon am fewnfudo anghyfreithlon a chyffuriau." 

Mynd i'r afael â hynny oedd dau o'i brif addewidion, meddai, a'r rheswm pam y cafodd ei ethol. 

Yn ôl Ysgrifennydd Cartref y Deyrnas Unedig, Yvette Cooper, mae perygl i weithredoedd Donald Trump “gael effaith hynod o niweidiol” ar yr economi yn fyd-eang. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.