Cannoedd yn angladd Linda Nolan
Mae angladd y gantores Linda Nolan wedi ei gynnal yn Blackpool, wrth i deulu a ffrindiau ymgynnull yn Eglwys Sant Paul ar gyfer y gwasanaeth.
Roedd arch y gantores yn binc a sgleiniog, ac roedd cymeradwyaeth y tu allan, wrth i'r hers gyrraedd yr eglwys.
Cerddodd ei chwiorydd, a oedd yn cyd-ganu gyda hi ym mand The Nolans i mewn i'r eglwys gyda'i gilydd, sef Anne, Maureen, Coleen a Denise.
Yn ei theyrnged, dywedodd Denise Nolan-Anderson fod ei chwaer yn mwynhau mynd i nosweithiau agoriadol ym maes adloniant.
"Roedd hi'n mwynhau cael ei gwallt wedi ei wneud yn bert, a'i cholur. Byddai hi wedi mwynhau yr holl ffws heddiw.”
Roedd actor EastEnders, Shane Richie, sef cyn ŵr Coleen Nolan yn bresennol, yn ogystal â'r digrifwr Tommy Cannon, y gantores Lisa Maffia a Paul Elliott - y digrifwr sy'n perfformio o dan yr enw Paul Chuckle.
Cafodd llun Linda Nolan ei osod y tu allan i'r eglwys, ac roedd cyfle i'r rhai oedd yn bresennol arwyddo llyfr cydymdeimlad.
Ffurfiodd Linda a'i chwiorydd Coleen, Bernie, Maureen, Anne a Denise y grŵp pop The Nolans yn y 70au gan gyrraedd brig y siartiau gyda chaneuon fel Gotta Pull Myself Together ac I’m In The Mood For Dancing.
Bu farw Bernie o ganser y fron yn 2013, yn 52 oed.
Wedi ei geni yn Nulyn, bu farw Linda Nolan fis diwethaf.
Blackpool oedd ei chartref, a chafodd ei hangladd ei gynnal yn yr eglwys lle priododd hi a'i diweddar ŵr Brian Hudson. Roedd y ddau yn briod am fwy na dau ddegawd.
Ar ôl cael diagnosis canser y fron yn 2005, fe ymgyrchodd yn ddi-flino a chodi arian ar gyfer elusennau canser.
Cafodd wybod bod y canser wedi diflannu yn 2011, ond yn 2017, cafodd ddiagnosis arall o ganser y fron, ac fe ymledodd i'w hafu yn 2020, ac yna eu hymennydd yn 2023.
Llwyddodd i godi mwy nag £20 miliwn ar gyfer amrywiol elusennau.