Newyddion S4C

Asgellwr Cymru Wes Burns allan am weddil y tymor ar ôl anaf difrifol

31/01/2025
Wes Burns

Fydd asgellwr Cymru Wes Burns yn colli dechrau gemau rhagbrofol Cwpan y Byd Cymru oherwydd anaf difrifol i'w ben-glin.

Dioddefodd Burns yr anaf ar ei ewyn croesffurf blaenorol (ACL) yn ystod gêm Ipswich Town yn erbyn Lerpwl ar 25 Ionawr.

Bu'n rhaid i Burns adael y cae a bellach mae rheolwr Ipswich, Kieran McKenna, wedi cadarnhau y bydd allan am weddill y tymor.

"Fe fydd yn mynd am lawdriniaeth wythnos nesaf, ac rydym yn gwybod y bydd allan am gyfnod hir," meddai.

"Wrth gwrs, fe fydd yn colli gweddill y tymor a byddwn yn ei golli. Heb amheuaeth mae'n golled enfawr, mae ganddo rinweddau sydd yn gweddu i'n ffordd o chwarae ac mae'n ergyd i golli hynny."

Image
Rheolwr Ipswich Kieran McKenna yn cysuro Wes Burns ar ôl iddo adael y cae gydag anaf
Rheolwr Ipswich Kieran McKenna yn cysuro Wes Burns ar ôl iddo adael y cae gydag anaf. Llun: Wochit

Mae Cymru yn dechrau eu hymgyrch rhagbrofol Cwpan y Byd 2026 ar 22 Mawrth yn erbyn Kazakhstan, cyn wynebu Gogledd Macedonia tri diwrnod yn ddiweddarach.

Mis Mehefin yw'r gemau nesaf, yn erbyn Gwlad Belg a Lichtenstein, a does dim sicrwydd bydd Burns yn holliach erbyn hynny.

Dywedodd McKenna fod Burns yn siomedig y bydd yn colli gweddill y tymor wrth i Ipswich frwydro i aros yn yr Uwch Gynghrair.

"Maw'n iawn, mae wedi delio gyda'r anaf yn dda. Ond wrth gwrs mae wedi siomi y bydd yn colli gweddill y tymor.

"Roeddem wedi siarad ar ôl y gêm, does dim amser da i wneud hynny ac mae'n anffodus iawn iddo.

"Fe fydd yn dychwelyd yn gryfach, does gen i ddim amheuaeth am hynny."

Prif lun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.