
'Pwysig' cynrychioli pobl anabl yn y Gymraeg, medd actorion sioe lwyfan
Mae’r dramodydd a’r actor Mared Jarman wedi dweud ei bod yn benderfynol o sicrhau cynrychiolaeth i bobl anabl drwy’r Gymraeg.
Mae’r berfformwraig yn byw â chyflwr dirywiol ar ei llygaid o’r enw clefyd Stargardt ar daith ledled Cymru gyda’i sioe theatr newydd, Byth Bythoedd Amen.
Mae’r ddrama yn dilyn hanes Loti, sy’n cael ei chwarae gan Mared, wrth iddi fynd ar daith alar tra’n byw ei bywyd fel person anabl.
Gobaith Mared Jarman, sydd wedi ennill BAFTA Cymru am ei rhaglen deledu i’r BBC, How This Blind Girl, yw sicrhau bod y gynulleidfa yn cael “gweld pobl anabl fel unrhyw un arall” – a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Dwi jyst yn teimlo yn Gymraeg yn enwedig, ‘da ni ddim wedi clywed y math yma o themâu wedi’i drafod, yn enwedig ar y llwyfan,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C.
“Dyw e ddim am anabledd mae e jyst dau berson anabl ac mae’n bersbectif gwahanol ar rywbeth ni gyd yn profi fel pobl.
“Fi jyst yn gobeithio bod e’n agor y sgwrs lan i bobl,” ychwanegodd.

'Lle ar y llwyfan i bawb'
Ochr yn ochr â’i chyd-actor Paul Davies, sy’n wyneb adnabyddus ar raglen deledu Heno, mae’n gobeithio “agor y drws a chadw e ar agor” i bobl anabl arall.
“I fi nes i ddim mynd i goleg actio nes o’n i’n 25 oherwydd o’n i ddim ‘di gweld pobl fel fi yn mynd i goleg actio, ac ar y teledu, ac ar llwyfannau gymaint – felly o’n i ddim yn meddwl bod e ar gael i fi.”
“Y mwya’ ni’n gweld pobl fel ni yn neud y gwaith yma, yr hawsa yw e i bobl arall.”
Fel y person anabl cyntaf gyda theitlau Mr Gay Wales a Mr Gay Universe, dywedodd Paul Davies, a gafodd ei eni heb ei law chwith, ei fod yn hollbwysig dangos bod ‘na “le ar y llwyfan i bawb.”
“O’n i’n gadael Cymru a mynd i weithio yn Lloegr achos o’n i’n teimlo fel I wasn’t wanted here.
“O’n i ddim yn gweld fy hunan ar y teledu, neu o’n i ddim yn clywed straeon pobl hoyw yn bod yn hapus… o’n i’n credu oedd rhaid i fi gadael y Cymoedd achos doedd dim croeso i fi.
“Ond mae Cymru yn eisiau fi, but I’ve had to pave my way,” meddai.

'Carreg filltir'
Mae Mared wedi bod yn gweithio dan gomisiwn gyda Theatr Cymru ers 2020 yn datblygu’r cynhyrchiad.
Dywedodd ei bod “mor browd” o’r sefydliad “achos ‘da nhw ddim wedi neud unrhyw beth fel hyn o’r blaen.”
Dywedodd Steffan Donnelly, sef Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru bod y ddrama’n “garreg filltir yn y theatr yng Nghymru fel drama o bersbectif anabl gyda chast anabl yn dathlu’r gymuned honno a brwydro ableddiaeth (‘ableism’) ein cymdeithas.”
Fel cyfarwyddwr y sioe, dywedodd Rhian Blythe: “Mae wedi bod yn daith a hanner yn y 'sdafell ymarfer hefyd, a mawr yw fy niolch i Mared, Paul a’r criw i gyd am fod mor agored, a pharod i gymryd naid.”
Mae Byth Bythoedd Amen ar daith ar hyn o bryd ac yn dod i ben yn Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron ar 13 Chwefror.
Prif lun: @paulstumpy/Instagram