Trychineb ar y Potomac: Geiriau Donald Trump yn corddi'r dyfroedd
Pan glywodd yr Unol Daleithiau y newyddion am y trychineb yn afon y Potomac nos Fercher, pan darodd hofrennydd y fyddin yn erbyn awyren oedd ar fin glanio ym Maes Awyr Ronald Reagan, roedd y wlad mewn sioc.
Roedd yn amser i feddwl am deuluoedd y 67 oedd ar goll, gyda'r disgwyliad na fyddai neb wedi gallu goroesi'r fath ddigwyddiad.
Amser hefyd i alaru am yr holl fywydau ddaeth i ben mewn amgylchiadau mor erchyll.
Ac amser i arlywydd newydd y wlad gamu i'r adwy a chynnig ychydig oleuni ymysg y tywyllwch.
Mae'r Unol Daleithiau wedi dioddef sawl cyflafan yn ei hanes, o ryfel cartref gwaedlyd y 19eg ganrif, i draethau Omaha ac Iwo Jima yn ystod yr ail ryfel byd, a chyflafan 9/11 yn fwy diweddar.
Ac ymhob pennod boenus o'i hanes, roedd pobl y wlad yn gallu dwyn ychydig gysur yng ngeiriau eu harweinydd.
I Donald Trump, sydd gyda'r ddawn unigryw o allu rhyfeddu a ffieiddio pobl mewn ychydig eiriau, roedd trychineb y Potomac yn gyfle i bwyntio'r bys.
Nid geiriau o gydymdeimlad oedd ar flaen ei feddwl, ond cyfle i wawdio'r weinyddiaeth flaenorol.
"Ni wyddom beth arweiniodd at y ddamwain hon", meddai yn swyddfa'r wasg y Tŷ Gwyn, "ond mae gennym farn a syniadau cryf."
Aeth yn ei flaen i ddyfalu - heb unrhyw sail - y gallai bod safonau is wedi cael eu gosod wrth gyflogi rheolwyr llif traffig awyrennau ym meysydd awyr y wlad yn ystod cyfnodau Joe Biden a Barack Obama.
Yna aeth ymlaen i awgrymu mai polisïau amrywiaeth ym myd cyflogaeth oedd yn gyfrifol.
Pan ofynnodd un gohebydd iddo pam ei fod yn cysylltu'r trychineb gyda pholisïau amrywiaeth yn y gweithle, ei ateb oedd: "Am fod gen i synnwyr cyffredin."
Aeth gam yn bellach - gan awgrymu bod polisïau amrywiaeth a chynhwysiant y corff sydd yn gyfrifol am reoli meysydd awyr yn gwyro o blaid pobl ag anableddau oedd yn cynnwys "clyw, gwelededd, parlys rhannol, parlys llwyr, epilepsi, nam gallu difrifol, anabledd seiciatryddol a phobl fychain eu cyrff."
Roedd y rhain yn eiriau mawr hyd yn oed i ddyn sydd wedi arfer ysgrifennu ei negeseuon mewn CAPS LOCK.
A geiriau sydd yn debygol o roi syniad eglur iawn i'r byd o gyfeiriad a thôn ei arweinyddiaeth am y bedair blynedd nesaf, wrth i wlad sydd mewn sioc geisio chwilio am atebion a chysur ymysg dioddefaint y trychineb ar y Potomac.