Gaza: Israel yn cyhuddo Hamas o dorri cytundeb y cadoediad
Mae Palesteiniaid yn dal i gael eu rhwystro rhag dychwelyd i’w cartrefi yng ngogledd Gaza ar ôl i Israel gyhuddo Hamas o dorri telerau cytundeb cadoediad.
Ddydd Sadwrn, rhyddhaodd Hamas bedair menyw Israelaidd a oedd wedi’u dal yn wystlon ers 7 Hydref 2023 fel rhan o gytundeb Cadoediad Gaza.
Roedd y pedair yn fod i gael eu cyfnewid am 180 o garcharorion Palesteinaidd. Dyma'r ail gyfnewid ers i’r cadoediad ddod i rym ddydd Sul diwethaf.
Ond ni chafodd y sifiliad o Israel, Arbel Yehud, ei gynnwys yn y cyfnewid, er bod Hamas i fod i ryddhau mwy o wystlon sydd ddim yn filwyr.
Tra bod Hamas yn mynnu bod Ms Yehud yn fyw ac yn mynd i gael ei rhyddhau'r wythnos nesaf, ymatebodd Israel drwy ohirio’r penderfyniad i dynnu rhai milwyr o Gaza, a fyddai wedi caniatáu i Balesteiniaid ddychwelyd i’w cartrefi yn y gogledd.
Roedd aflonyddwch nos Sadwrn wrth i Balesteiniaid oedd wedi disgwyl cael mynd adref i’r gogledd ar ôl y cyfnewid ganfod bod y ffordd yn dal wedi ei rhwystro gan danciau Israel.
Roedd adroddiadau bod gynnau wedi eu saethu wrth i dyrfaoedd ymgynnull ar hyd ffordd al-Rashid yng nghanol Gaza i ddychwelyd adref, a bod un person wedi marw ac eraill wedi eu hanafu.
Dywedodd Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) fod milwyr yng nghanol Gaza wedi saethu ar ôl i “ddwsinau o bobl dan amheuaeth o fod yn fygythiad i’r lluoedd ymgynnull at ei gilydd”.
Ychwanegodd: “Yn wahanol i’r adroddiadau yn yr oriau diwethaf, roedd pob gwn wedi ei saethu at ddibenion ymbellhau, ac nid ar gyfer creu niwed... rydym yn pwysleisio nad oes unrhyw un o’r anafiadau sydd wedi digwydd o ganlyniad i’r saethu.”