Eluned Morgan: Dim arian ychwanegol os nad yw penaethiaid iechyd yn torri rhestrau aros
Mae’r Prif Weinidog wedi rhybuddio penaethiaid iechyd na fyddwn nhw’n parhau i gynyddu faint o arian sy’n mynd i mewn i’r GIG os nad oes cynnydd ar leihau rhestrau aros.
Wrth siarad ar raglen Any Questions? BBC Radio 4 dywedodd bod rhaid i arweinwyr y byrddau iechyd “wneud yn well”.
Roedd 802,268 o gleifion ar restrau aros yng Nghymru ym mis Tachwedd yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd ddydd Iau, yr uchaf erioed a hynny am y 10fed mis yn olynol.
Dywedodd yr ysgrifennydd iechyd Jeremy Miles fod y GIG yn wynebu "amgylchiadau heriol" ac nad oedd y ffigyrau eto'n adlewyrchu'r buddsoddiad y mae'n ei wneud i leihau rhestrau aros.
Dywedodd Eluned Morgan wrth raglen Any Questions na fyddai buddsoddiad ychwanegol yn dilyn os nad oedden nhw’n gweld pethau’n dechrau gwella.
“Mae’r system yn un lle’r ydan ni fel llywodraeth yn gosod y canllawiau ac yn dweud wrth benaethiaid y byrddau iechyd beth i’w wneud,” meddai.
Ychwanegodd bod angen “gwell rheolaeth gan y byrddau iechyd” ac “atebolrwydd”.
“Gyda’r arian ychwanegol sydd wedi mynd i mewn, fyddan nhw ddim yn cael yr arian os nad ydyn ni’n gweld canlyniadau,” meddai.
Dywedodd Mimms Davies, yr AS sy'n siarad ar ran y Ceidwadwyr yn San Steffan ar faterion Cymreig, nad oedd “llawer o gysur” yng ngeiriau’r Prif Weinidog.
“Mae pawb yn adnabod rhywun sydd ar restr aros,” meddai.
Dywedodd yr Aelod o Senedd Cymru Sioned Williams, sy’n cynrychioli Plaid Cymru, “nad oes cyfeiriad clir iawn” i’r Gwasanaeth Iechyd.