Canran y bobl sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru ar ei lefel isaf ers wyth mlynedd
Canran y bobl sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru ar ei lefel isaf ers wyth mlynedd
Mae ystadegau yn bwysig.
Maen nhw'n cael eu defnyddio i lywio penderfyniadau mawr y byd.
O ran y Gymraeg, mae niferoedd yn cyfri wrth geisio cyrraedd nod Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae data diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cofnodi'r ganran isaf o siaradwyr Cymraeg ers wyth mlynedd.
Felly, be sydd wedi ei nodi?
Mae'r graff yn dangos ers 2001 bod cynnydd araf bach yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg.
Yna, maen nhw'n arafu ac yn fwy diweddar yn gostwng.
Mae awgrym mai plant a phobl ifanc 3 i 15 oed sy'n fwy tebygol o ddeud eu bod yn gallu siarad Cymraeg nag unrhyw grwp oedran arall.
Ond mae'r ganran yna wedi bod yn gostwng yn gyffredinol ers dechrau 2019.
Tydy'r arolwg yma ddim yr un fath a'r cyfrifiad sy'n cyfri'n swyddogol o ran targedau Llywodraeth Cymru.
Ond mae'r arolwg blynyddol yma yn help i ddangos tueddiadau'r boblogaeth o ran eu gallu nhw i siarad Cymraeg.
“Dw i'n meddwl dylai pawb sy'n symud i Gymru dysgu digon o Gymraeg i sgwrsio efo pobl mewn siop."
"I speak Wenglish."
Mae hynny'n oce!
"I say a lot of words like cacen, I never say cake."
Yng Ngwynedd, Sir Gaerfyrddin a Chaerdydd y mae'r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg.
Ym Mlaenau Gwent a Merthyr Tudful y mae'r niferoedd isaf.
Ym Mangor dros beint a sgwrs, mae 'na flas ar ddysgu Cymraeg.
"Roedd 'chydig o Gymraeg yn fy nheulu tair cenhedlaeth yn ol felly roeddwn i wastad yn awyddus am yr iaith.
"Wnes i ddechrau dysgu allan o ddiddordeb."
"Dw i yn athro yng Nghymru. Dw i'n byw ym Mangor. It's been good to meet the community and understand what the local people are saying."
Be bynnag fo'r ystadegau swyddogol mae 'na deimlad o benderfyniad yma ym Mangor.
"Mae isio bod yn uchelgeisiol ac i bawb wneud eu rhan. Mae'n fwy cymhleth na jyst dysgu'r iaith.
"Mae angen dysgwyr gael y cyfle i ymarfer. 'Dan ni'n gallu ei wneud o, ond mae'n lot o waith."
Mae Llywodraeth Cymru'n deud y dylid ystyried y ffigyrau blynyddol yma ochr yn ochr a data eraill am siaradwyr Cymraeg.
Gan bwysleisio ei bod wedi ymrwymo'n llwyr i'r nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r defnydd dyddiol o'r iaith.
A'r criw yma ym Mangor fel cymaint drwy Gymru yn siwr o chwarae eu rhan.