Newyddion S4C

Mynd â deiseb i Downing Street yn erbyn newidiadau i'r dreth etifeddiaeth

Deiseb Treth Etifeddiaeth

Mae arweinwyr undebau ffermio wedi mynd a deiseb yn erbyn newidiadau i'r dreth etifeddiaeth i Downing Street cyn protestiadau dros y penwythnos.

Mae ffermwyr dan arweiniad undebau NFU, NFU Cymru ac eraill yn bwriadu cynnal ‘Diwrnod o Undod Cenedlaethol’ ddydd Sadwrn gyda digwyddiadau lleol mewn sawl rhan o Gymru.

Teithiodd Llywydd NFU Cymru Aled Jones a Llywydd yr NFU Tom Bradshaw i Stryd Downing er mwyn trosglwyddo'r ddeiseb sydd wedi ei arwyddo 270,000 o weithiau.

Dywedodd gweinidog y Trysorlys, James Murray, ddydd Iau fod cynlluniau Llywodraeth y DU i osod treth etifeddiant o 20% ar ffermydd gwerth mwy na £1 miliwn yn “deg”.

Ychwanegodd fod ffermwyr yn parhau i fwynhau “eithriadau hael” wrth dalu treth etifeddiaeth gan gynnwys talu dim treth nes bod ganddyn nhw asedau o £1m a chael eu heithrio o 50% o’r dreth ar ôl hynny.

Ond dywedodd Aled Jones a Tom Bradshaw mewn datganiad bod y cyhoedd wedi eu “cythruddo” gan agwedd y llywodraeth at y bobl “sy’n cynhyrchu eu bwyd”.

“Rydyn ni’n gofyn i'r Canghellor i wrando ar ffermwyr a chwrdd â ni i glywed a deall ein pryderon gwirioneddol yn llawn,” medden nhw. 

“Fydd undebau ffermio’r DU ddim yn eistedd yn ôl ac yn gadael i hyn fynd - byddwn yn parhau i ymladd oherwydd nid ein ffermydd yn unig yw hyn, ond ein teuluoedd, ein dyfodol, a’ch bwyd chi.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.