Gwrthod cynllun Ewrop clybiau EFL Cymru
Gwrthod cynllun Ewrop clybiau EFL Cymru
Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi gwrthod cynnig i glybiau Cymru sydd yn chwarae yng nghynghreiriau Lloegr gymhwyso ar gyfer Ewrop trwy gwpan domestig Cymru.
Ers rhai misoedd mae clybiau Caerdydd, Abertawe, Wrecsam a Chasnewydd wedi bod yn gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i chwarae yng Nghwpan Cymru ar ei newydd wedd.
Fe fyddai 'Prosiect Cymru' wedi golygu y byddai'r pedwar clwb yn cael chwarae yn y gystadleuaeth a fyddai hefyd wedi cynnwys 12 clwb y Cymru Premier JD.
Fe fyddai enillwyr y gystadleuaeth wedi cymhwyso ar gyfer Cyngres Europa.
Ond mewn cyfarfod ddydd Iau roedd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi gwrthod y cynnig, a hynny wedi pryderon gan yr EFL (cynghreiriau Lloegr) a chlybiau'r cynghreiriau.
Ar hyn o bryd yr unig ffordd y gall clybiau Cymru sydd yn chwarae yn yr EFL gymhwyso ar gyfer Ewrop yw trwy orffen ym mhedwar safle uchaf yr Uwch Gynghrair neu ennill Cwpan yr EFL neu Gwpan yr FA.
'Siomedig'
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr eu bod wedi "cynnal ymgynghoriad trylwyr gyda rhanddeiliaid" a'u bod nhw wedi gwrthod y cynigion yn dilyn "pryderon a godwyd gan randdeiliaid ynghylch uniondeb cystadleuaeth, nifer y gemau a lles chwaraewyr, a'r effaith ar statws cystadlaethau presennol".
Mewn ymateb dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod yn "cydnabod y penderfyniad" ond eu bod yn "siomedig fod y cynnig wedi cael ei wrthod gan y byddai wedi bod o fudd i bêl-droed ar bob lefel yng Nghymru".
Ychwanegodd y corff y byddai buddsoddiad o £3 miliwn yn flynyddol wedi cael eu rhannu rhwng clybiau'r Cymru Premier JD, yr Adran Premier Genero a chyfleusterau llawr gwlad ar draws Cymru.