Newyddion S4C

Angen mwy o bêl-droedwyr benywaidd ar gardiau pen-blwydd medd AS

22/01/2025
Merched Pêl-droed Cymru

Mae diffyg cardiau pen-blwydd a chyfarchion sy’n cynnwys pêl-droedwyr benywaidd yn “tanseilio ymdrechion i hybu cydraddoldeb rhyw” mewn chwaraeon, yn ôl ASau.

Mae gwerthwyr cardiau yn cael eu hannog i ehangu eu hystod i gynnwys mwy o opsiynau sy'n dathlu chwaraewyr pêl-droed benywaidd. Fe all cardiau chwaraeon helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth iau.

Fe wnaeth yr AS Helen Maguire, sydd yn aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol, gyflwyno cynnig cynnar- yn- y- dydd yn Nhŷ'r Cyffredin er mwyn codi ei phryderon a gofyn am weithredu. 

Mae'r cynnig gan yr AS yn dweud bod camau ymlaen wedi eu cymryd ym mhêl-droed merched a bod chwaraewyr benywaidd yn "fwy amlwg ar lefel genedlaethol ac ar lawr gwlad.”

“Mae’n nodi gyda phryder y diffyg argaeledd o gardiau pen-blwydd a chyfarchion sy’n dathlu pêl-droedwyr benywaidd”

'Diffyg cynrychiolaeth'

“Mae’n credu bod diffyg cynrychiolaeth athletwyr benywaidd mewn cynhyrchion o'r fath yn tanseilio ymdrechion i hyrwyddo cydraddoldeb rhyw mewn chwaraeon.”

“Mae’n galw ar weithgynhyrchwyr a manwerthwyr cardiau cyfarch i ehangu eu hystod i gynnwys mwy o opsiynau sy’n cynnwys chwaraewyr pêl-droed benywaidd. Mae yn annog mwy o gynrychiolaeth o chwaraeon menywod ar draws pob math o gyfryngau a chynhyrchion i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o athletwyr benywaidd.”

Cafodd y cynnig ei arwyddo gan 11 o ASau eraill gan gynnwys aelodau eraill o'r Democratiaid Rhyddfrydol, dau o'r blaid Werdd a Jim Shannon o'r DUP. 

Mae cynnig cynnar-yn-y-dydd yn gyfle i wleidyddion fynegi barn, gefnogi safbwynt neu roi sylw i achos arbennig. Anaml iawn maen nhw'n destun dadl wedyn yn Nhŷ'r Cyffredin. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.