Newyddion S4C

‘Rhan o enaid y dref’: Ymchwilio wedi i benddelw o’r Frenhines Fictoria ddiflannu o Landudno

Penddelw Fictoria

Mae aelod o Senedd Cymru yn dweud ei bod hi’n “torri ei chalon” wedi i benddelw o’r Frenhines Fictoria ddiflannu o Landudno.

Roedd y penddelw yn sefyll ger Cylch yr Orsedd y dref ac yn edrych allan o’r Gogarth i gyfeiriad y pier.

Mae Heddlu’r Gogledd bellach yn ymchwilio i weld beth sydd wedi digwydd i’r penddelw, sydd wedi bod yn y fan a’r lle ers 153 o flynyddoedd.

Mae’r plinth hefyd wedi ei ddifrodi ers y diflaniad ddydd Iau a’r safle wedi ei gau gyda bariau metal.

Codwyd y gofeb ym 1890 i nodi 50 mlynedd o deyrnasiad y Frenhines Fictoria, a oedd wedi dathlu ei Jiwbilî Aur dair blynedd ynghynt.

Dywedodd yr Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy Janet Finch-Saunders bod y penddelw yn “ran o enaid y dref”.

“Mae’n ymosodiad ar ein treftadaeth gyffredin a hunaniaeth Llandudno,” meddai.

"Byddai yn golled annirnadwy o werth diwylliannol a hanesyddol, a rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i’w atal.”

Dywedodd Cyngor Tref Llandudno ei fod wedi bod yn “drist iawn” wrth ddarganfod bod y penddelw hanesyddol ar goll a’u bod yn apelio am wybodaeth. 

Dywedodd y Cynghorydd Robert Atenstaedt, sy’n cynrychioli ward Tudno, ei fod yn “ofni ei fod wedi cael ei doddi oherwydd ei werth metel sgrap a fyddai’n drist iawn i Landudno.”

Llun: Ian S dan drwydded comin creadigol ar y chwith, Cyngor Tref Llandudno ar y dde.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.