Adroddiad arbennig: Gobaith ac ansicrwydd yn Israel wrth i wystlon ddychwelyd
Ers 15 mis, mae erchyllterau 7 Hydref 2023 yn bwrw cysgod dros y Dwyrain Canol.
Wrth gerdded drwy faes awyr Tel Aviv, mae wynebau’r 251 o wystlon gafodd eu cipio gan Hamas a’u cludo i Gaza yn syllu o bosteri at y rhai sydd yn cyrraedd.
Wynebau pobl gyffredin sydd nawr yn ddarnau chwarae mewn gêm wleidyddol a milwrol.
Dros y 470 diwrnod diwethaf, mae dial Israel ar Gaza wedi bod yn waedlyd a digyfaddawd.
Mae 46,900 o bobl Gaza wedi eu lladd yn ôl y weinyddiaeth iechyd yno, sydd yn cael ei redeg gan Hamas.
Yn Sgwâr y Gwystlon, Tel Aviv, mae pobl wedi bod yn dod ynghyd dros y 15 mis diwethaf yn galw am ryddhau’r gwystlon.
Wrth i ni gyrraedd y sgwâr nos Sul, mae’n ferw o bobl - cannoedd yn gwylio sgrîn fawr sydd wedi ei chodi ac yn dangos sianel newyddion leol.
Mae’r emosiwn yn amlwg gyda phobl yn cofleidio, yn gweiddi ac yn canu.
A phan bod sylw i weinidog sydd yn gwrthwynebu’r cadoediad a chytundeb gyda Hamas, mae ‘na grochlefain ffyrnig: “Wnawn ni ddim anghofio hyn” yw bloedd y dorf.
Ymhlith y bobol sydd yno mae Yair Golan, arweinydd y Blaid Ddemocrataidd yn Israel ac yn aelod o’r Knesset (y Senedd Israelaidd).
Er ei fod yn croesawu rhyddhau’r gwystlon, mae’n feirniadol o’r llywodraeth a’r Prif Weinidog Benjamin Netanyahu, gan ddweud y dylai cytundeb fod wedi digwydd lawer ynghynt.
Ond dyw e ddim yn credu bod dyletswydd ar Israel i ailadeiladu Gaza.
“Rhaid cofio bod hyn i gyd oherwydd gweithredoedd erchyll Hamas” yw ei farn bendant.
Mae ‘na lawenydd hefyd yn y Sgwâr wrth i wynebau’r tair sydd yn cael eu rhyddhau ymddangos ar y sgrin - a fideo o dad un ohonyn nhw -Romi Gonen, 24 oed, yn ei ddagrau wrth weld bod ei ferch yn cael dod gartref.
“Dwi’n hapus iawn,” meddai Yuval Inbar, sydd yn dod o ardal Tel Aviv ac wedi dysgu Cymraeg.
Mae hi’n un arall sydd wedi bod yn galw am gyfaddawd a chytundeb ers misoedd. Ond yn poeni hefyd am y degau o wystlon eraill sydd yn dal i fod yn gaeth yn Gaza.
“Roedd hi’n amser rhy hir ond mae llawer o wystlon yno o hyd. Felly gobeithio y bydd pawb yn dod adref.”
Bydd cymal cyntaf y cadoediad yn Gaza yn parhau am chwe wythnos. Yn gyfnewid am ryddhau 33 o wystlon Israelaidd, mae Israel wedi cytuno i ryddhau dros 1,800 o garcharorion Palesteinaidd.
Mewn datganiad, dywedodd Hamas y byddan nhw yn parchu’r cytundeb i ryddhau 33 o wystlon dros y chwe wythnos nesaf.
Ond dywedodd eu llefarydd bod yn rhaid i Israel gadw eu hochr nhw o’r fargen er mwyn sicrhau bod y cadoediad yn parhau.
Os yw chwe wythnos gyntaf y cadoediad yn llwyddiannus, bydd ail gymal y cadoediad yn rhoi diwedd parhaol i’r ymladd a’r trydydd cymal yn rhoi cynllun i ailadeiladu Gaza.
Mae cytundeb hefyd y bydd 600 o lorïau yn cludo nwyddau dyngarol yn cael mynediad i Gaza bob dydd. Yn yr wythnosau diwethaf, dim ond 40 lori sydd wedi bod yn gwneud y siwrne.
Mewn cyfweliad â rhaglen Newyddion S4C, ma’ pennaeth cymorth dyngarol elusen Oxfam yn dweud fod y cyfnod diweddaraf wedi bod yn un trychinebus.
Yn ôl Magnus Corfixen, roedd “popeth wedi cael ei rwystro gan awdurdodau Israel.”
“Mae yna obaith nawr y bydd elusennau fel Oxfam a’n partneriaid yn gallu cael mwy o gymorth i Gaza… a gobaith hefyd y gall gweithwyr dyngarol wneud hynny heb orfod poeni am eu diogelwch eu hunain.”
Ar y ddwy ochr, mae yna obeithio y bydd pob cam o’r cadoediad yn cael ei wireddu ond does dim sicrwydd y bydd y cytundeb bregus hwn yn parhau yn y tymor hir.
Ar ôl 470 diwrnod o ladd, mae gweld unrhyw fath o gytundeb allai arwain at ddiwedd y gwrthdaro gwaedlyd yn cael ei groesawu gan nifer fawr o bobl yn Israel, Gaza ac ar draws y byd.
Fe fydd rhaglen estynedig o Newyddion S4C am 19:30 nos Lun, 20 Ionawr.