Newyddion S4C

Dyn o flaen llys wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio babi yng Ngheredigion

Rhydian Jamieson

Mae dyn wedi ymddangos o flaen llys wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio babi yng Ngheredigion.

Cafodd Rhydian Jamieson o Gwm Cou ger Castell Newydd Emlyn ei gadw yn y ddalfa, wedi'r gwrandawiad yn Llys Ynadon Hwlffordd. 

Fe fydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe fis nesa.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i leoliad yn y Ferwig ger Aberteifi cyn 22:15 ddydd Mercher diwethaf. 

Clywodd Llys Ynadon Hwlffordd fod y babi nad oes modd ei enwi am resymau cyfreithiol wedi dioddef “anafiadau dychrynllyd sy'n peryglu bywyd." 

Llun: Cyfryngau cymdeithasol

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.