Newyddion S4C

Dŵr Cymru yn dweud bod dŵr wedi ei adfer i bawb yn ardal Conwy

Dŵr Cymru

Mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau bod cyflenwadau dŵr wedi eu hadfer ar ôl i bibell ddŵr fyrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd yn Nolgarrog.

Maent hefyd wedi dweud y bydd iawndal i fusnesau a chartrefi. 

Roedd hyd at 40,000 o gartrefi a busnesau wedi eu heffeithio ar un cyfnod a hynny dros ardal eang o fewn y sir.

Erbyn dydd Sul roedd tua 90% o'r tai oedd wedi eu heffeithio bellach yn derbyn dŵr yfed unwaith eto. Ond mae'r corff erbyn hyn wedi dweud bod y cyflenwadau wedi eu hadfer yn llwyr. 

Dywedodd Dŵr Cymru: “Mae'r holl ysgolion yr effeithir arnynt bellach yn ôl ar y cyflenwad a bydd cyflenwadau dŵr amgen yn parhau i fod ar waith heddiw.”

“Rydym eisoes wedi cadarnhau'r trefniadau iawndal ar gyfer ein cwsmeriaid cartref a busnes.”

“Hoffem ymddiheuro eto am yr anghyfleustra a brofwyd gan gwsmeriaid a hoffem ddiolch iddynt am weithio gyda ni.”

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.