Newyddion S4C

Gaza: Tri gwystl Israelaidd wedi eu trosglwyddo i Israel

19/01/2025

Gaza: Tri gwystl Israelaidd wedi eu trosglwyddo i Israel

Mae tri gwystl Israelaidd yn ôl yn Israel meddai byddin y wlad.

Dywedodd llefarydd brynhawn dydd Sul fod y tri gwystl oedd wedi eu trosglwyddo i'r Groes Goch bellach wedi croesi i diriogaeth Israel.

Dywedodd Hamas fore dydd Sul mai’r tair dynes fyddai’n cael eu rhyddhau oedd Romi Gonen, 24 oed, Doron Steinbrecher, 31 oed, dinesydd o Rwmania, ac Emily Damari, 28 oed, o Brydain.

Y cytundeb oedd y byddai'r tair yn cael eu rhyddhau, gyda 95 o Balestiniaid oedd wedi eu carcharu yn Israel hefyd yn cael eu rhyddhau fel rhan o'r cytundeb..

Mae'r tair gwystl Israelaidd wedi cael eu cludo i gyfleuster ger y ffin i gael archwiliad cychwynnol cyn cael eu cludo i'r ysbyty.

Dywedodd llefarydd ar ran byddin Israel: “Ychydig yn ôl croesodd y gwystlon a ryddhawyd y ffin i diriogaeth Israel.

“Mae’r gwystlon sydd wedi’u rhyddhau ar hyn o bryd ar eu ffordd i dderbynfa gychwynnol yn ne Israel, lle byddan nhw’n cael asesiad meddygol cychwynnol.”

Mae Syr Keir Starmer wedi croesawu'r newyddion, gan ei ddisgrifio fel "newyddion gwych oedd yn llawer rhy hir yn dod ar ôl misoedd o artaith iddyn nhw a'u teuluoedd".

Cadoediad

Daw'r datblygiad diweddaraf ar ôl i'r cadoediad rhwng Israel a Hamas yn Gaza ddod i rym yn dilyn oedi fore dydd Sul.

Fe ddaeth y cadoediad i rym am 11:15 amser lleol (09:15 GMT) ar ôl i Israel dderbyn rhestr enwau’r gwystlon cyntaf i gael eu rhyddhau gan Hamas.

Roedd hyn bron deirawr yn hwyrach na’r disgwyl.

Roedd Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, wedi dweud na fydd cadoediad Gaza yn mynd yn ei flaen nes bod Hamas yn darparu enwau'r gwystlon oedd i gael eu rhyddhau.

Cafodd 10 o bobol eu lladd gan ymosodiadau o'r awyr gan luoedd arfog Israel ar Gaza cyn i'r cadoediad ddod i rym.

Digwyddodd hyn yn ystod yr awr gyntaf pan oedd y cadoediad i fod mewn lle fore dydd Sul, yn ôl llefarydd ar ran asiantaeth amddiffyn sifil Gaza sy’n cael ei rhedeg gan Hamas.

Mewn datganiad, dywed Hamas fod yr oedi cyn rhyddhau rhestr o enwau'r gwystlon oherwydd "rhesymau technegol."

Yn ôl y cytundeb cadoediad, roedd rhaid darparu enwau o leiaf 24 awr cyn cyfnewid y gwystlon - gyda'r cyfnewid cyntaf o wystlon Israelaidd a charcharorion Palestina i fod i ddigwydd yn ddiweddarach ddydd Sul.

Roedd telerau’r cytundeb i fod i ddod i rym yn swyddogol am 08:30 amser lleol (06:30 GMT) ddydd Sul.

Fe wnaeth llywodraeth Israel gymeradwyo’r cytundeb newydd ar gyfer y cadoediad yn Gaza nos Wener.

Pleidleisiodd wyth gweinidog yn erbyn y cytundeb gyda 24 arall yn bwrw pleidlais o'i blaid.

Mae gweinidog diogelwch cenedlaethol Israel Itamar Ben-Gvir wedi ymddiswyddo o’r llywodraeth mewn gwrthwynebiad i’r cytundeb cadoediad.

Mae’r gweinidog asgell dde eithafol wedi beirniadu’r cytundeb yn flaenorol am ildio i Hamas.

Roedd y cabinet diogelwch wedi argymell y dylid cadarnhau’r cytundeb, gan ddweud ei fod “yn cefnogi cyflawni amcanion y rhyfel”, yn ôl swyddfa’r Prif Weinidog Benjamin Netanyahu.

Telerau

O dan delerau’r cytundeb, roedd 33 o wystlon Israel sy’n dal i gael eu cadw gan Hamas yn Gaza i fod i gael eu cyfnewid am gannoedd o garcharorion Palesteinaidd yng ngharchardai Israel yn ystod y cyfnod cyntaf sy’n para chwe wythnos.

Bydd lluoedd Israel hefyd yn tynnu'n ôl o ardaloedd poblog iawn yn Gaza, bydd Palestiniaid sydd wedi'u dadleoli yn cael dechrau dychwelyd i'w cartrefi a bydd cannoedd o lorïau cymorth yn cael eu caniatáu i'r diriogaeth bob dydd.

Fe fydd trafodaethau ar gyfer yr ail gam - a ddylai weld y gwystlon sy'n weddill yn cael eu rhyddhau - yn arwain at filwyr Israel yn tynnu'n ôl yn llawn ac "adfer tawelwch cynaliadwy" - yn dechrau ar yr 16eg diwrnod.

Bydd y trydydd cam a'r cam olaf yn cynnwys ailadeiladu Gaza - rhywbeth a allai gymryd blynyddoedd - a dychwelyd unrhyw gyrff gwystlon sy'n weddill.

Cafodd 251 o wystlon eu cipio a'u cludo i Gaza yn dilyn cyrch ar dir Israel ar 7 Hydref 2023, pan laddwyd oddeutu 1,200 o bobl.

Y gred yw bod 94 o wystlon yn parhau yn nwylo Hamas, gyda 34 o'r rheiny bellach wedi marw.

Yn dilyn y cyrch milwrol, fe lansiodd lluoedd Israel ymosodiad milwrol ar Gaza, gan arwain at tua 46,000 o farwolaethau o fewn y diriogaeth yn ôl yr awdurdodau iechyd yn Gaza, sydd o dan weinyddiaeth Hamas.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.