
Gorbryder: ‘Ymweld â chlybiau pêl-droed ar lawr gwlad wedi newid fy mywyd’
“Mae bywyd yn rhy fyr i deimlo'n ofnus am bopeth.”
Mae Daniel Marr wedi ymweld â dros 100 o glybiau pêl-droed ar lawr gwlad, gan gynnwys CPD Pwllheli yng Ngwynedd.
Mae’r gŵr 37 oed o Gaeredin yn rhan o gymuned groundhopping, sef cefnogwyr pêl-droed brwd sy’n anelu i wylio gemau mewn cymaint o leoedd â phosib.
Fe benderfynodd ymuno â'r gymuned er mwyn ceisio goresgyn rhai o’i heriau iechyd meddwl.
“Naw mlynedd nôl, ges i wybod fod gen i orbryder ac agoraffobia [ofn bod mewn sefyllfa na allwch ddianc yn hawdd oddi wrtho],” meddai.
“Ar un adeg do’n i heb adael y tŷ am chwe mis – do’n i ddim hyd yn oed yn mynd i’r gwaith.”
Ond fe wnaeth marwolaeth ei gefnder o ganser yn 2022 wneud iddo sylweddoli bod “bywyd yn rhy fyr”.
Gyda chefnogaeth ei wraig, fe ddechreuodd fynd i gemau bach yn yr Alban, gyda hyd at 1,000 o bobl.
Mae bellach wedi llwyddo i wylio gêm mewn stadiwm gyda thorf o dros 50,000.
“Fyswn i byth wedi gallu gwneud hyn dwy flynedd nôl,” meddai.

Dywedodd Daniel, sy'n gweithio mewn adran achosion brys, bod natur groesawgar clybiau’r is-gynghrair (non-league) wedi’i ysbrydoli.
“Ro’n i wrth fy modd gyda’r atmosffer, yr ysbryd cymunedol, yn y clybiau,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Ac yna nes i ddarganfod bod gan bob clwb stori ei hun – roedd hynny o ddiddordeb mawr i mi.”
Yn ôl Daniel, mae gemau’r is-gynghrair yn “lot fwy diddorol” na rhai’r uwch-gynghrair.
“Mae gan nifer o’r chwaraewyr swyddi llawn amser,” meddai.
“Dydyn nhw ddim jyst yn chwarae pêl-droed, felly mae nifer ohonyn nhw’n dangos mwy o ymroddiad i’r gêm – dw i jyst yn meddwl ei fod yn fwy diddorol.”
Ychwanegodd: “Os ydych chi’n bored ar nos Fawrth gyda dim byd i’w wneud, yna ewch i weld pryd fydd eich tîm is-gynghrair lleol yn chwarae nesaf.
“Mae’n costio llai na £10 fel arfer i fynd i un o’r gemau yma, sy’n wych yn fy marn i – yn enwedig pan fyddwch chi fel arfer yn cael gwylio gêm dda o bêl-droed.”

Yn ddiweddar, fe gyflawnodd Daniel daith 300 milltir o Gaeredin i Bwllheli.
Fe aeth i wylio tîm Merched Pwllheli yn herio tîm Merched Caernarfon, sy'n rhan o Gynghrair Merched y Gogledd.
“Dw i wrth fy modd bod gan y clwb stand,” meddai.
“Mi ges i sgwrs gyda’r dyn ar y giât a dywedodd wrtha i am enw'r stand a’r person mae’n ei goffau [Bernie Smith].
“Roedd y dyn ar y giât hefyd wedi treulio oriau yn adeiladu tŷ’r clwb.
“Mae’n glwb cymunedol gwych – fe wnaeth argraff fawr arna i.”

Ers iddo gael diagnosis o orbryder ac agoraffobia, nid yw Daniel wedi bod ar awyren.
Yn y dyfodol mae'n gobeithio y bydd yn gallu mynd i wylio gemau dramor wrth iddo fagu hyder.
“Dwi’n bwriadu dechrau’n fach a chael hediad byr i Iwerddon, a chymryd petha' o fan 'na,” meddai.
“Un o fy nhargedau mwy heriol, os yw hyd yn oed yn bosib, yw mynd i wylio gêm bêl-droed ym mhob gwlad yn y byd.”