Merthyr i ymuno â'r Cymru Premier JD?
Merthyr i ymuno â'r Cymru Premier JD?
Ers canrif a mwy, mae pel-droed wedi bod yn cael ei chwarae yma ar Barc Penydarren, cartref Clwb Pel-droed Merthyr.
Mae'r Clwb, sydd yn berchen i'r cefnogwyr yn chwarae yn y pyramid pel-droed yn Lloegr ond mae 'na gais iddyn nhw ddychwelyd i'r gorlan Gymreig.
Mae Cymdeithas Bel-droed Cymru wedi cysylltu a'r perchnogion yn awgrymu y gallen nhw dderbyn hyd at £6 miliwn tasen nhw'n ymuno a'r Cymru Premier fydd yn ehangu i 16 tim yn 2026.
Byddai'r gymdeithas yn cyfrannu £2 filiwn tuag at wella isadeiledd y stadiwm a'n gwneud cais am arian cyfatebol gan gyrff llywodraethol ac awdurdodau lleol.
Byddai'r gymdeiths hefyd yn cyfrannu £250,000 bob blwyddyn am bum mlynedd i'r clwb am chwarae yn y Cymru Premier gydag arian ychwnaegol yn cael ei roi ar gyfer cronfa'r cae 4G a chyfleusterau teledu.
Mae darbwyllo Merthyr i ymuno a'r Cymru Premier yn ganolog i gynllun Cymdeithas Bel-droed Cymru i ailwampio'r gynghrair.
Yn y gorffennol, mae son 'di bod am ehangu'r gynghrair i 16 o dimau.
Ond a fydd Merthyr yn un o'r timau hynny?
Mae gan Kevin Rogers atgofion pleserus o chwarae yma ar Barc Penydarren.
Fe sgoriodd mewn gem Ewropeaidd yn erbyn cewri'r Eidal, Atlanta.
Beth wnaiff e o'r cynnig diweddara'?
"This football club is being very well run by a group of people. It's a community club.
"There are more people wanting to become involved. The crowd are growing here, and the team's getting better.
"Everything ticks the box. It's a difficult question to answer."
Mae Kath Morgan wedi bod yn cefnogi Merthyr ers yn blentyn.
Mae ei hangerdd tuag at y clwb yr un mor gryf heddiw.
"Mae'r clwb mewn safle da.
"Maen nhw ar frig eu cynghrair ac yn edrych am ddyrchafiad. Does dim problem denu chwaraewyr da a lleol.
"Mae criw o chwaraewyr lleol yn nhim yr ieuenctid wedi dod drwy'r llwybr gyda'r clwb.
"Nawr, maent yn chwarae i'w tim cyntaf.
“Ni'n agos fel clwb ac mae lot o gefnogwyr yn y dref. Mae lot o bobl yn cynrychioli'r clwb yn wirfoddol.
"Mae'r ofn o golli'r elfen hynny yn broblem."
Mae cyfarfod yn cael ei gynnal ym Merthyr heno i drafod y sefyllfa.
Mae disgwyl i'r aelodau bleidleisio ar y mater cyn diwedd y mis.