Ymosodiad 'wedi cyfrannu' at farwolaeth dyn o Gaerdydd 23 mlynedd yn ddiweddarach
Roedd anaf ar yr ymennydd yn “ffactor a wnaeth gyfrannu” at farwolaeth diweddar dyn a ddioddefodd ymosodiad difrifol yng Nghaerdydd 23 mlynedd yn ôl.
Fe wnaeth Leon Adams, 47 oed, a fu farw ar 26 Rhagfyr y llynedd, ddioddef anafiadau difrifol i’w ben wedi ymosodiad yng ngorsaf drenau Grangetown yn ystod oriau man 14 Chwefror 2002.
Fe dreuliodd Mr Adams dwy flynedd mewn coma yn dilyn yr ymosodiad.
Ar ôl iddo huno o’r coma, roedd yn gwadriplegig (quadriplegic), gan olygu nad oedd ganddo ddefnydd o’i goesau na’i freichiau, ac roedd angen gofal rheolaidd arno.
Ni ddaeth yr heddlu o hyd i’r ymosodwr.
Fe agorwyd cwest i’w farwolaeth yn Llys y Crwner De Cymru ym Mhontypridd ddydd Iau, ble roedd anaf ar yr ymennydd wedi’i restru fel ffactor a wnaeth gyfrannu at ei farwolaeth.
Dywedodd swyddog y crwner: “Fe ddioddefodd Leon anaf ar yr ymennydd mewn ymosodiad arno yng Nghaerdydd yn 2022. Mae'n rhesymol awgrymu fod yr ymosodiad gwreiddiol wedi cyfrannu i’w farwolaeth.”
Fe wnaeth yr uwch grwner Graeme Hughes ohirio’r cwest er mwyn galluogi i adolygiad cyn cwest cael ei gynnal yn yr haf.
Dywedodd Mr Hughes: “Rydw i am ohirio’r cwest hwn tan y byddwn yn cynnal gwrandawiad i adolygu cyn y cwest, ac wrth wneud, hoffwn rannu fy nghydymdeimladau gyda theulu a ffrindiau Mr Adams.”
Roedd Mr Adams yn 24 oed ar adeg yr ymosodiad. Roedd wedi gadael y dafarn The Cottage ar Heol Eglwys Fair yng nghanol y ddinas, ble’r oedd yn gweithio y tu ôl i’r bar, am tua 23.24 ar 13 Chwefror 2002.
Roedd gan Mr Adams ei gyflog yn ei feddiant ar y pryd yn ôl yr heddlu, ond ni chafodd unrhyw arian ei ddarganfod y bore trannoeth.
Mae sawl apêl wedi bod ers yr ymosodiad, ond nid oes unrhyw berson wedi cyfaddef cyfrifoldeb.