Newyddion S4C

Cyhoeddi cyflwynwyr newydd Match of the Day

Kelly Cates, Mark Chapman a Gabby Logan

Mae'r BBC wedi cyhoeddi'r tri chyflwynydd newydd fydd yn cymryd lle Gary Lineker ar Match of the Day.

Fe wnaeth y BBC gadarnhau ym mis Tachwedd y llynedd y byddai Lineker yn gadael ei rôl ar ddiwedd y tymor, ar ôl 26 o flynyddoedd.

Mark Chapman, Gabby Logan a Kelly Cates fydd yn rhannu'r ddyletswydd o gyflwyno Match of the Day, Match of the Day 2 a rhaglen Match of the Day Champions League.

Dywedodd y Gymraes Gabby Logan, sydd yn cyflwyno rhaglenni rygbi ac athletau ar y BBC bod gan y swydd pwysigrwydd hanesyddol. 

"Mae'n foment cyffrous pan chi'n cyflwyno achos bod ganddo gymaint o hanes," meddai.

"Mae'r rhaglen dal yn berthnasol i fywydau cymaint o bobl ac mae pobl dal yn siarad amdano mewn adeg lle mae teledu wedi newid llawer.

"Mae cyfrifoldeb enfawr i sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu, ond ar yr un pryd parchu traddodiad Match of the Day. Mae pobl eisiau gweld y goliau, y digwyddiadau... y craidd yw pêl-droed."

Ychwanegodd Mark Champan, sydd yn cyflwyno ar Radio 5 Live ei fod yn "fraint" i gael cyflwyno'r rhaglen.

Dywedodd Kelly Cates, fydd yn parhau i gyflwyno ar Sky Sports fod eistedd yn y gadair a chlywed cerddoriaeth eiconig Match of the Day "yn foment anhygoel."

Llun: BBC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.