Dynes wedi marw fis ar ôl i feic ei tharo tra roedd hi'n cerdded
Mae dynes 56 oed wedi marw yn yr ysbyty fis wedi i feic ei tharo tra roedd hi'n mynd â'i chi am dro gyda'i gŵr yng Nghaerdydd.
Cyhoeddodd Heddlu De Cymru iddi farw ddoe yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd, a'u bod yn apelio am unrhyw wybodaeth allai fod o gymorth i'w hymchwiliad.
Roedd y ddynes yn cerdded gyda'i gŵr a'i chi ar Ffordd Moorland yn ardal Y Sblot rywbryd rhwng 5.30 a 6.30 nos Fawrth 10 Rhagfyr pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Yn ôl yr heddlu, roedd y dyn a oedd ar gefn y beic yn gwisgo gorchudd du dros ei wyneb, crys gwyn a thei goch.
Maen nhw yn apelio ar y dyn hwnnw i gysylltu â nhw.
Mae'r llu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddyfynnu'r rhif 2400428551/