Newyddion S4C

'Difrod sylweddol' i gar heddlu wrth geisio atal gyrrwr rhag ffoi ar yr A55

13/01/2025
Gwrthdrawiad A55

Mae car heddlu wedi'i ddifrodi'n "sylweddol" yn dilyn ymgais i geisio atal gyrrwr rhag ffoi ar ffordd yr A55.

Fe gafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i Ffordd Caernarfon ym Mangor toc wedi 17.00 dydd Sul yn dilyn adroddiad bod car yn gyrru'n beryglus.

Er gwaethaf eu hymdrechion, ni lwyddodd swyddogion i stopio'r car.

Yn ddiweddarach, fe lwyddodd swyddog o'r Uned Troseddau Ffyrdd i stopio'r car ar yr A55, ger Cyffordd 10.

Fe gafodd dyn 29 oed o Fangor ei arestio wedi'r digwyddiad ar amheuaeth o nifer o droseddau gyrru.

Roedden nhw'n cynnwys gyrru dan ddylanwad cyffuriau, gyrru’n beryglus a gyrru heb drwydded.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod "difrod sylweddol" i'w cerbyd yn dilyn y digwyddiad.

"Diolch byth, ni chafodd y swyddog ei anafu yn ystod y digwyddiad," meddai llefarydd ar ran y llu.

"Fodd bynnag, mae difrod sylweddol i flaen y cerbyd heddlu."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.